"Eglurder, ymarferoldeb a dim tynnu pwerau presennol y Cynulliad yn ôl" – Llywydd y Cynulliad yn gosod tri phrawf o ran pwerau i Gymru yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 29/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw ar y Bil Cymru newydd i ddarparu eglurder i bobl Cymru.

Bydd hi’n nodi nodweddion y model "Pwerau a gadwyd" yr hoffai hi ei weld yn cael ei roi ar waith, pan fydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad heddiw (29 Mehefin).

Mae model "cadw pwerau" yn debyg i’r setliad presennol yn yr Alban, a byddai’n nodi beth na all y Cynulliad ddeddfu arno (pwerau a gedwir yn San Steffan) yn hytrach na beth y gall ddeddfu arno (fel y setliad presennol).

Disgwylir y bydd y Fonesig Rosemary yn dweud wrth y Pwyllgor, er ei bod yn cefnogi’r model "Pwerau a gadwyd" mewn egwyddor, mae’n bwysig ei fod yn cael ei gynllunio i ddarparu setliad mwy tryloyw a dealladwy, i alluogi pobl Cymru i ddeall pwy sy’n gwneud y cyfreithiau sy’n gymwys i’w bywydau hwy.

Bydd y Llywydd yn dweud: “Fel y dywedais mewn tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol[1] ac wrth Gomisiwn Silk, mae’r model presennol o roi pwerau cymhwysedd deddfwriaethol yn anfoddhaol.

“Rwyf wedi dadlau ers amser dros gam tuag at setliad cadw pwerau, felly rwy’n croesawu’r ymrwymiad i wneud hynny yn y cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi.

“Wedi dweud hynny, nid yw symud tuag at fodel cadw pwerau yn ateb i bob problem. Bydd fy nghefnogaeth i unrhyw gynnig gan Lywodraeth y DU yn amodol ar fodloni tri maen prawf: Eglurder; ymarferoldeb; a dim troi’n ôl o ran cymhwysedd presennol y Cynulliad.

“Dylai sybsidiaredd fod yn egwyddor trefnu sylfaenol ar gyfer setliadau datganoli - dylai’r canol gadw dim ond yr hyn na ellir ei wneud yn effeithiol ar lefel genedlaethol ddatganoledig.

“Gallai defnyddio dull gweithredu o’r math ar sail egwyddorion, wrth gynllunio model cadw pwerau, ddarparu sail gadarn a chynaliadwy ar gyfer y setliad.”

Yn ei thystiolaeth, bydd y Llywydd yn ychwanegu ei bod yn credu, na ddylai’r "pynciau tawel" fel y’u gelwir, sef y pynciau hynny na chânt eu rhestru’n benodol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 fel meysydd y mae gan y Cynulliad gymhwysedd ynddynt, ac nad ydynt yn eithriadau i’r cymhwysedd, fod yn bynciau a gedwir yn awtomatig o dan y Ddeddf Cymru newydd.

Bydd y Fonesig Rosemary yn dweud: “Wrth gwrs, mae meysydd yn y ‘pynciau tawel’ hyn a ddylai gael eu cadw’n briodol i Lywodraeth y DU, fel y cyfansoddiad, neu amddiffyn, a byddai’n afrealistig gwrthsefyll y cam o gadw meysydd o’r fath.

“Fodd bynnag, os caiff ‘pynciau tawel’ eraill, fel cyfraith cyflogaeth, neu gyfraith sifil neu gyfraith droseddol - sy’n bwysig, eu cadw heb gafeat cryf, byddai hyn yn arwydd sylweddol o dynnu cymhwysedd yn ôl, fel y dehonglwyd gan y Goruchaf Lys yn achos y Bil Sector Amaethyddol.

Gallwch wylio sesiwn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn fyw ar Senedd TV o 14.30 ymlaen.