Eu Mawrhydi Y Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog yn ymweld â’r Senedd

Cyhoeddwyd 11/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/09/2022   |   Amser darllen munudau

Bydd Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III a’r Frenhines Gydweddog yn ymweld â’r Senedd ddydd Gwener 16 Medi, lle byddant yn clywed cynnig o gydymdeimlad ac yn cwrdd ag Aelodau o’r Senedd ac Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.  

Mae’r ymweliad hwn yn rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i nodi esgyniad Y Brenin Charles i’r Orsedd. Bydd y parti Brenhinol hefyd yn mynd i wasanaeth gweddi a myfyrdod yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a derbyniad yng Nghastell Caerdydd. 

Caiff ymweliad Y Brenin â’r Senedd ei ddarlledu’n fyw ar y BBC a Senedd.tv