Eich cyfle i lunio deddf newydd i helpu gofalwyr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 04/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Eich cyfle i lunio deddf newydd i helpu gofalwyr yng Nghymru

Gallai gofalwyr gael mwy o wybodaeth a chyngor gan y GIG ac awdurdodau lleol o dan fesur arfaethedig sy’n cael ei ystyried gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  

Mae’r Pwyllgor yn galw am dystiolaeth er mwyn helpu i ystyried y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaeth ar gyfer Gofalwyr (Cymru).  Os caiff ei gymeradwyo, bydd dau ddiben i’r mesur arfaethedig. Byddai’n rhoi’r cyfrifoldeb ar awdurdodau i roi gwybod i ofalwyr am yr hawliau a’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Hefyd byddai’n sicrhau bod awdurdodau’n cynnwys gofalwyr wrth benderfynu pa wasanaethau i’w cynnig iddynt neu i’r person y maent yn gofalu amdano.   

Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5: “Does dim amheuaeth na ddylid gwneud mwy i helpu’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i helpu ac i ofalu am anwyliaid neu bobl eraill yn eu cymuned.

“Mae’n syndod bod 70 y cant o ofalwyr yn y gymuned yn gwneud hynny’n ddi-dâl ac mae’n rhaid eu cefnogi ym mha bynnag fodd y gallwn.

“Ond er bod emosiwn a thosturi yn dweud wrthym fod angen mwy o ddeddfwriaeth, mae’n rhaid cael y ddeddfwriaeth gywir. Dyna pam ein bod ni, aelodau’r Pwyllgor, yn dymuno clywed gan unrhyw un a allai gael ei effeithio’n uniongyrchol gan y mesur arfaethedig hwn.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor anfon e-bost at glerc y pwyllgor ar legislationoffice@cymru.gsi.gov.uk neu drwy’r post at: Clerc y Pwyllgor, Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.

Mae rhagor o wybodaeth am y Mesur Arfaethedig ar gael yma: Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru)