Ein dyfodol digidol - y Llywydd yn sefydlu tasglu i lywio gwasanaethau digidol y Cynulliad yn y dyfodol

Cyhoeddwyd 02/08/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/08/2016

​Bydd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn nodi ei bwriad i wahodd arbenigwyr o faes cyfathrebu digidol i ffurfio tasglu i argymell ffyrdd y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am waith y ddeddfwrfa mewn modd deniadol a hygyrch.

Bydd y Llywydd yn trafod ei huchelgais yn ystod digwyddiad yng nghwmni Catrin Haf Jones o ITV Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 11.00 ar 2 Awst.

“Rydym yn gweld chwyldro yn nisgwyliadau pobl o ran y gwasanaethau a ddarperir gan ffynonellau newyddion a gwybodaeth.

“Ni allwn anwybyddu’r pwysau ar y cyfryngau confensiynol yng Nghymru nac effaith hynny ar rannu gwybodaeth am waith y Cynulliad Cenedlaethol â phobl Cymru. Mae angen ailwampio ein gwefan Senedd.tv a’n llwyfannau cyfathrebu eraill. Gallwn droi’r diffyg sylw yn y cyfryngau yn gyfle i ddylunio ein dulliau ein hunain o gyfathrebu a rhyngweithio â phobl Cymru, gan ddefnyddio pob math o dechnoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol. Gallwn gymryd arfer gorau o Seneddau a sefydliadau eraill a chael cymorth gan yr unigolion mwyaf arloesol i’n helpu i gynllunio ar gyfer y gwaith hwn.

“Os yw’r Cynulliad a’i waith i barhau’n berthnasol mewn oes lle mae ffiniau rhwng darlledu, print a digidol yn fwy annelwig nag erioed, mae’n rhaid i ni newid ein harferion rhannu gwybodaeth a gosod uchelgais newydd i ni ein hunain fel darparwr newyddion.
 
“Nid yw hon yn her unigryw i’r Cynulliad – mae’n sialens barhaus i’r drydedd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus hefyd. Er mwyn sicrhau llais a hunaniaeth gref i’n gwaith, rhaid i ni elwa o arbenigedd a phrofiad sefydliadau ag unigolion blaengar yn y maes. Rwy’n gobeithio y daw argymhellion cyffrous gan y tasglu fydd yn cwblhau ei waith cyn diwedd y flwyddyn.”