Enw newydd Senedd Cymru a Welsh Parliament yn dod yn gyfraith

Cyhoeddwyd 06/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/05/2020


Yn dilyn deddfwriaeth a basiwyd yn gynharach eleni, heddiw (dydd Mercher 6 Mai 2020) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn newid yn swyddogol i Senedd Cymru a Welsh Parliament, er mi fydd yn cael ei galw gan amlaf yn Senedd. 

Mae’r enw newydd yn adlewyrchu statws llawn y sefydliad fel senedd genedlaethol, gyda phwerau deddfu a’r gallu i amrywio trethi. 

Mae’r enw newydd, a’r dyddiad ar gyfer y newid, yn gyfraith yn ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru). Mae diwrnod y newid un flwyddyn yn union cyn dyddiad arfaethedig Etholiadau’r Senedd yn 2021. Mi fydd teitlau’r 60 Aelod, a etholwyd i gynrychioli pobl Cymru, yn newid i Aelod o’r Senedd (AS) neu Member of the Senedd (MS) yn Saesneg.

Er bod Senedd Cymru’n mabwysiadu ei henwau newydd heddiw, mae COVID-19 yn parhau i fod yn flaenoriaeth lwyr i’r Senedd a’i Haelodau wrth iddi barhau â’i gwaith yn cefnogi a chraffu ar yr ymateb swyddogol i’r pandemig.

Mewn datganiad ysgrifenedig, meddai’r Llywydd, Elin Jones AS: 

“Mae ymateb i argyfwng y coronafeirws yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Senedd a'r Aelodau. Nawr, yn fwy nag erioed, mae ein dinasyddion yn disgwyl senedd genedlaethol gref sy'n gweithio dros Gymru: Aelodau'n gofyn cwestiynau i'r Llywodraeth, yn craffu ar bwerau a deddfau brys, ac yn cynrychioli eu cymunedau hyd eithaf eu gallu yn y Senedd. 

“Mae rôl ein senedd yn llawer mwy arwyddocaol na'i henw. Ond mae'n briodol bod yr enw'n adlewyrchu'r ystod o bwerau a chyfrifoldebau sydd gan y senedd hon ar ran pobl Cymru. Mae'r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i'r un a sefydlwyd fel Cynulliad ym 1999. Bellach mae ganddo bwerau deddfu llawn a'r gallu i amrywio trethi ac mae'r enw newydd yn cyfleu statws cyfansoddiadol y Senedd fel senedd genedlaethol.”

Pleidleisiau i bobl 16 oed a newidiadau eraill yn y Senedd

Yn ogystal â chyflwyno enw newydd, mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn golygu y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn Etholiadau'r Senedd. Mi fydd dinasyddion tramor cymwys hefyd yn cael pleidleisio, sydd, ynghyd â’r grŵp oedran newydd, yn golygu’r estyniad mwyaf i’r etholfraint yng Nghymru ers 1969. Mae cofrestru ar gyfer y grwpiau newydd yn agor ar 1 Mehefin 2020.

Prif newidiadau Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yw: 
  • Enw swyddogol newydd, sef Senedd Cymru neu Welsh Parliament. 
  • Gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.
  • Rhoi’r bleidlais i ddinasyddion tramor cymwys. 
  • Newid y gyfraith fel bod rhan fwyaf o'r gwaharddiadau sy'n rhwystro pobl rhag dod yn Aelodau o’r Senedd ddim yn eu rhwystro rhag bod yn ymgeisydd mewn etholiad, ac felly'n caniatáu i fwy o bobl allu bod yn ymgeiswyr.
  • Darparu bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan y Senedd a’i fod yn atebol iddi ar gyfer etholiadau yng Nghymru.
Daeth y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn gyfraith pan gafodd Gysyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2020. Dyma ran gyntaf rhaglen Ddiwygio’r Senedd ac mae'n seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad annibynnol gan Banel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol.