Mae dros draean o bobl yn ardaloedd tlotaf Cymru yn cael trafferth cael gafael ar fwyd iach, yn ôl Pwyllgor yn y Senedd.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dweud bod angen gweithredu ar frys i helpu'r 37% o bobl yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru sydd ag ansicrwydd o ran bwyd – hynny yw, mae’r bwyd yn eu deiet yn ddiffygiol o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddigonedd.
Mae’r adroddiad Rhywbeth i gnoi cil arno, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn gwneud saith argymhelliad y bydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu mabwysiadu i sicrhau bod bwyd iach yn fforddiadwy ac yn hygyrch.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod bwyd yn cyfrannu at fwlch sylweddol mewn disgwyliad oes iach rhwng cymunedau cyfoethocaf a chymunedau tlotaf Cymru.
Dyma a ddywedodd Janet Hayward, sy'n rhedeg prosiect bwyd Big Bocs Bwyd, wrth y Pwyllgor:
Mae’r gwahaniaeth rhwng Tregatwg a’r Bont-faen o ran disgwyliad oes iach yn 20 mlynedd, sy’n wahaniaeth enfawr. Nododd fod hyn yn bennaf oherwydd y bwyd y mae’r plant yn ei fwyta. Felly, yn ogystal â pheidio â chael digon o fwyd, mae hefyd yn fater o gael y bwyd cywir.
Nododd fod gan bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru hawl i bryd ysgol am ddim bellach, ond bod hynny'n edrych yn wahanol ym mhob awdurdod lleol. Dywedodd ei bod yn hysbys nad oes gan ysgolion yng Nghymru ddigon o arian. Ychwanegodd fod angen i blant gael y bwyd cywir, ond nad yw'r hyn sy'n digwydd yng ngheginau ysgolion yn hollol addas at y diben.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae'n gywilyddus bod llawer gormod o bobl sy’n trigo yn un o wledydd cyfoethocaf y byd yn ei chael hi'n anodd fforddio bwyd iach a chael mynediad ato. Mae'r canlyniadau o ran iechyd ein cenedl yn drychinebus. Rhaid i'r Llywodraeth weithredu i wrthwynebu buddiannau breintiedig pwerus.
“Diben ein hymchwiliad oedd deall sut rydym yn symud y tu hwnt i’r hyn a ddechreuodd fel ymateb i argyfwng, i ddull ataliol, system-gyfan sydd ag urddas, iechyd a chydnerthedd wrth ei wraidd.
“Clywsom negeseuon cyson am yr angen i wneud y canlynol: buddsoddi mewn garddwriaeth a rhwydweithiau dosbarthu bwyd lleol; rhoi ysgolion a chymunedau wrth wraidd newid; ymgorffori egwyddorion “arian parod yn gyntaf” mewn perthynas â bwyd da; a sicrhau cymorth tymor hir ar gyfer partneriaethau bwyd lleol. Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein casgliadau a'n hargymhellion i sicrhau bod gan bob rhan o Gymru fynediad at fwyd iach a fforddiadwy.”
Mynd i'r afael ag ansicrwydd o ran bwyd
Datgelodd adroddiad diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd fod 21 y cant o ymatebwyr yng Nghymru yn ansicr o ran bwyd. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, mae’r ffigur yn cynyddu i 37% o ymatebwyr, o'i gymharu â 13% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae bod yn ansicr o ran bwyd yn golygu rhywun â diogeledd bwyd isel (lefel is o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet) neu ddiogeledd bwyd isel iawn (arwyddion lluosog o batrymau bwyta amharedig a bwyta llai o fwyd).
Cafodd rhaglen gwyliau ysgol Bwyd a Hwyl ei hyrwyddo gan lawer o dystion, a’r haf diwethaf, fe ddarparodd fwy na 14,000 o brydau bwyd am ddim y dydd i blant ledled Cymru. Mae prosiectau cymunedol eisoes yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru, gan gynnwys Big Bocs Bwyd, sy'n darparu canolfannau bwyd ‘talu faint fynnwch’.
Ond mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth nesaf Cymru weithio gyda phartneriaid lleol i helpu i ddatrys yr heriau ariannol y mae llawer o ddarparwyr yn eu hwynebu. Dylai sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi sefydliadau llwyddiannus i barhau i weithredu, gan gynnwys talu costau gweithredu craidd, ac ehangu’r dulliau hynny y profwyd eu bod yn gweithio.