Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Darlledu newydd

Cyhoeddwyd 15/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Darlledu newydd  

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Darlledu’r Cynulliad yn y Senedd ddoe (dydd Llun, 14 Ebrill).

Gwaith y pwyllgor yw ymchwilio i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg ac effeithiau newid i’r digidol ar gynhyrchu rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru, a hefyd cyflwyno adroddiad ar hyn.

Yn dilyn ethol y Cadeirydd, derbyniodd y pwyllgor, sy’n cynnwys Peter Black, Alun Davies, Paul Davies a Nerys Evans, gyflwyniadau gan Ofcom a dau sefydliad sy’n ymwneud â newid i’r digidol, sef Wesley Clover Corporation ac Inuk Networks.

Dywedodd Alun Davies AC, a etholwyd yn Gadeirydd y pwyllgor: “Rwy’n falch iawn o gael cadeirio’r Pwyllgor Darlledu newydd. Mae newid i’r digidol yn fater a fydd yn effeithio ar bob cartref yng Nghymru yn y dyfodol agos iawn; mae’n hanfodol felly ein bod ni’n archwilio’r holl oblygiadau posibl i’r cyhoedd ac i ddarlledu yn y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd. Rwy’n edrych ymlaen at gynnal ymchwiliad cynhwysfawr a thrylwyr gyda fy nghydweithwyr."