Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio

Cyhoeddwyd 16/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio

Mae Pwyllgor Archwilio y Cynulliad wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf ers ethol y Trydydd Cynulliad. Etholwyd David Melding AC yn Gadeirydd y Pwyllgor. Dywedodd: " ’Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle hwn i gadeirio’r Pwyllgor Archwilio. Mae’r Pwyllgor wedi’i sefydlu’i hun yn fodel o graffu effeithiol a dycnwch wrth archwilio gwariant cyhoeddus. Ni waeth pa her fydd yn dod i ran y Pwyllgor, bydd yn adeiladu ar ei enw da gan weithio mewn modd trawsbleidiol a diduedd i sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn derbyn gwerth am arian mewn gwasanaethau cyhoeddus. Dymunaf i’m cyd-aelodau ar y Pwyllgor bob llwyddiant yn y gwaith hwn ac ‘r wy’n gobeithio efelychu’r hyn a gyflawnwyd gan fy rhagflaenwyr a fu’n Gadeiryddion y Pwyllgor Archwilio, sef Janet Davies a Dafydd Wigley.” Mae’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd hefyd wedi cyfarfod am y tro cyntaf. Etholwyd Sandy Mewies AC yn Gadeirydd. Mwy o wybodaeth am y Pwyllgorau