Ethol Cadeirydd y Pwyllgor newydd ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion

Cyhoeddwyd 14/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Cadeirydd y Pwyllgor newydd ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion yn y Senedd ddoe (Dydd Mawrth 13 Mai). Etholwyd Kirsty Williams AC yn gadeirydd y pwyllgor sydd hefyd yn cynnwys Jeff Cuthbert, Irene James, Dai Lloyd ac Alun Cairns.

Swyddogaeth y pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2008 (‘y Mesur arfaethedig’) ac adrodd yn ôl arnynt. Cyflwynwyd y Mesur arfaethedig gan Jenny Randerson AC yn dilyn ei llwyddiant mewn balot, sy’n rhoi’r hawl i Aelod Cynulliad unigol gyflwyno’i chynnig deddfwriaethol ei hun neu ei gynnig deddfwriaethol ei hun.

Er mwyn cynorthwyo â gwaith y pwyllgor, bydd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid allanol yn ogystal â Jenny Randerson AC a Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Bydd y Mesur arfaethedig yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion i hyrwyddo bwyta’n iach yn ysgolion Cymru. Bydd hefyd yn golygu bod bwyta’n iach yn dod yn rhan o’r gyfundrefn arolygu mewn ysgolion ac y bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu gynnwys y maes bwyta’n iach yn eu hadroddiadau blynyddol i rieni. Bydd yn ofynnol i Weinidogion adrodd yn ôl yn flynyddol hefyd ar y cynnydd o ran maeth mewn ysgolion ac ar wella safonau. Bydd y Mesur arfaethedig hefyd yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i annog mwy o ddisgyblion i fwyta prydau ysgol a sicrhau bod y ganran uchaf bosibl o’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dewis manteisio ar hynny.

Dywedodd Kirsty Williams AC, “Rwyf yn falch iawn o gadeirio’r Pwyllgor newydd ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Bwyta’n Iach mewn Ysgolion. Mae’n holl bwysig ein bod yn sicrhau’r dechrau gorau i blant yng Nghymru o ran gofalu amdanynt eu hunain a byw bywyd iach. Gall ysgolion chwarae rhan fawr yn hyn, nid yn unig drwy addysgu ond hefyd sicrhau bod y bwydydd cywir ar gael i’w disgyblion yn ystod prydau bwyd. Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-Aelodau wrth graffu ar y Mesur arfaethedig hwn ac adrodd yn ôl arno."

Mae Mesur yn rhan o ddeddfwriaeth a gaiff ei wneud gan y Cynulliad. Mae ei effaith yn debyg i Ddeddf Seneddol. Gall y Cynulliad basio Mesur ar unrhyw ‘fater’ a restrir o dan Atodlen 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar hyn o bryd maent yn cynnwys meysydd fel addysg a hyfforddiant, iechyd a llywodraeth leol.

Gellir gweld gwybodaeth i newyddiadurwyr am swyddogaeth, cyfrifoldebau a phwerau deddfu newydd y Cynulliad ar-lein yn ein pecyn cyfryngau.

Rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth:

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor