Ethol Comisiynwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 06/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ethol Comisiynwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Etholwyd pedwar Aelod yn Gomisiynwyr yn y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2007. Lorraine Barrett, yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth, yw cynrychiolydd y Blaid Lafur, ac Elin Jones, yr Aelod dros Geredigion, yw cynrychiolydd Plaid Cymru. Mae William Graham, yr Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru, a Peter Black, Aelod y Democratiaid Rhyddfrydol dros Orllewin De Cymru, hefyd yn aelodau o’r Comisiwn. Crëwyd y Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu gwasanaethau i Aelodau'r Cynulliad. Mae’r Llywydd yn aelod o’r Comisiwn, ynghyd â’r pedwar Aelod arall a enwebwyd gan y prif bleidiau gwleidyddol.