Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penodi pedwar Comisiynydd newydd. Bydd y Comisiynwyr yn gyfrifol am osod nodau a chyfeiriad strategol Comisiwn y Cynulliad dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys pum Aelod - y Llywydd sy’n cadeirio’r cyfarfodydd, a phedwar Aelod, gydag un o bob un o’r grwpiau gwleidyddol mwyaf.
Y pedwar Comisiynydd yw Joyce Watson AC o Llafur Cymru, Dai Lloyd AC o Blaid Cymru, Suzy Davies AC o’r Ceidwadwyr Cymreig a Caroline Jones AC o UKIP. Y Llywydd, Elin Jones AC, sy’n cadeirio’r Comisiwn.
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r Cynulliad benodi Comisiynwyr y Cynulliad. Y rhain sy’n gyfrifol am ddarparu’r staff a’r adnoddau sydd eu hangen ar y Cynulliad i ymgymryd â’u swyddogaethau’n effeithiol ar ran pobl Cymru.
Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad, “Gyda'n gilydd, rydym ni, fel Comisiynwyr, yn gyfrifol am lywodraethu'r sefydliad ac yn atebol i'r Cynulliad.
“Ymhlith cyfrifoldebau’r Comisiynwyr fel “bwrdd llywodraethu” mae gosod nodau strategol y sefydliad, arwain er mwyn rhoi’r rhain ar waith a goruchwylio’r ffordd y caiff y nodau strategol hynny eu cyflawni.”
Mae Comisiwn y Cynulliad yn gyfrifol am lwyddiant hirdymor y Cynulliad, er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn sefydliad democrataidd cryf, hygyrch a blaengar ac yn ddeddfwrfa sy’n gwasanaethu pobl Cymru yn effeithiol.
Pan fo modd, dylai aelodau'r Comisiwn (heblaw'r Llywydd) fod yn perthyn i grwpiau gwleidyddol gwahanol. Yn gyfreithiol, mae'r Comisiwn yn gorff ar wahân i Lywodraeth Cymru; mae hyn yn golygu mai cyflogeion Comisiwn y Cynulliad yw staff y Cynulliad Cenedlaethol, ac nid gweision sifil. Mae hyn yn debyg i'r trefniant yn Nhŷ'r Cyffredin a Senedd yr Alban.
Byddant yn cwrdd am y tro cyntaf yn ddiweddarach y mis hwn i drafod eu cyfrifoldebau portffolio.