Faint ydych yn ei wybod am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru? Un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymchwiliad

Cyhoeddwyd 03/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd ymchwiliad newydd gan bwyllgor Cynulliad Cenedlaethol yn edrych ar faint y mae pobl yn ei ddeall am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, sut y mae o fudd i ddysgwyr, sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr, a faint y mae'n cael ei werthfawrogi.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus ac yn gwahodd pobl i fynegi eu barn.

Ailstrwythurwyd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn 2015 i gryfhau datblygiad personol drwy Dystysgrif Her Sgiliau sy'n asesu addasrwydd person ifanc ar gyfer addysg bellach neu gyflogaeth.

Ochr yn ochr â'r Dystysgrif Her Sgiliau, mae dysgwyr yn parhau i astudio detholiad o gymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch, a chymwysterau galwedigaethol.

Bu pryderon ynglŷn â'r ffordd mae prifysgolion yn ystyried cymhwyster Bagloriaeth Cymru gan nad yw rhai'n derbyn y cymhwyster fel rhan o'u cynigion, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen, ac nad yw eraill yn ei ystyried ar gyfer cyrsiau meddygaeth a milfeddygaeth. Fodd bynnag, mae llawer o brifysgolion yn derbyn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster sy'n cyfateb i Safon Uwch.

Er bod Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru yn opsiynol, ar hyn o bryd, i bobl ifanc 16-19 oed yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru am i bob ysgol a choleg gynnig y cymhwyster.

"Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn rhan allweddol o strategaeth addysg Llywodraeth Cymru ac wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc i sicrhau lle ar gwrs addysg uwch neu gael y sgiliau personol sydd eu hangen i fod yn barod i ddechrau gweithio," dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Ond rydym am wybod a yw'n cyflawni'r nodau hyn, a faint y mae pobl yn ei ddeall am Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, beth mae'n ei olygu i ddysgwyr, rhieni, ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr.

"Byddwn yn annog unrhyw un sydd naill ai wedi cwblhau Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, yn ei ddilyn ar hyn o bryd neu sy'n ei gyflwyno i gyfrannu at ein hymchwiliad a helpu i lywio ein hargymhellion."

Mae'r Pwyllgor wedi creu arolwg i fyfyrwyr a rhieni ei gwblhau, sgwrs Deialogue ar-lein i gyflogwyr gymryd rhan ynddi, ac arolwg ar-lein i sefydliadau addysg uwch gadarnhau eu polisi derbyn o ran Bagloriaeth Cymru.

Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalennau gwe'r Pwyllgor am ragor o wybodaeth.