Ffurfio Is-bwyllgor Darlledu newydd y Cynulliad

Cyhoeddwyd 12/11/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ffurfio Is-bwyllgor Darlledu newydd y Cynulliad

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Is-bwyllgor Darlledu’r Cynulliad yn y Senedd ddydd Mercher 5 Tachwedd. Sefydlwyd y pwyllgor hwn gan y pwyllgor craffu Cymunedau a Diwylliant. Ei gylch gwaith fydd cyflwyno adroddiad erbyn 4 Rhagfyr 2008 ar y cynigion a geir yng Ngham 2 o Adolygiad Ofcom i Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a chyflwyno adroddiad o fewn 2 fis i adroddiad terfynol Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Daw’r is-bwyllgor i ben ar ôl yr adroddiad terfynol.

Gellir cael mwy o wybodaeth yn http://www.ofcom.org.uk/consult/condocs/psb2_phase2/lang=cy  

Nerys Evans AC fydd yn cadeirio’r pwyllgor a’r aelodau yw Paul Davies AC, Peter Black AC a Joyce Watson AC.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 10 Rhagfyr 2008.