Flwyddyn yn ddiweddarach, y Llywydd yn dweud bod y trefniant datganoli’n gweithio’n dda
Bydd Llywydd y Cynulliad yn dweud heddiw (ddydd Llun, 12 Mai) fod trefniant cyfansoddiadol presennol y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio’n dda, flwyddyn ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru ddod i rym.
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud wrth Aelodau’r Cynulliad a gwesteion eraill mewn derbyniad yng Nghaerfyrddin fod y Cynulliad wedi dangos ei fod yn barod ac yn gallu defnyddio’i bwerau deddfu newydd o dan y Ddeddf.
Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn dweud: “Rwy’n falch o’r ffordd rydym wedi ymateb i’r her o ddeddfu o dan Gyfansoddiad newydd Cymru ers mis Mai diwethaf. Mae Gweinidogion Cymru ac Aelodau Cynulliad unigol wedi cyflwyno Mesurau, sy’n gyfystyr â Deddfau Seneddol, ynghyd â chyfres o Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, sy’n ceisio rhagor o bwerau. Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Addysg a Hyfforddiant oedd y Gorchymyn cyntaf i gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad a Senedd y DU, ac erbyn hyn mae’r Gorchymyn wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan Ei Mawrhydi. Mae Mesur cyntaf Llywodraeth Cymru – y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG – yn ymwneud â rhoi iawndal mewn achosion o esgeulustod meddygol wrth ddarparu gwasanaethau’r GIG yng Nghymru. Mae’r Mesur bellach wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynulliad ac rydym yn aros am gymeradwyaeth Ei Mawrhydi.
“Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd mewn llai na blwyddyn ers i Ddeddf Llywodraeth Cymru ddod i rym ac ers ffurfio Llywodraeth Cymru’n Un yn deyrnged i’r Cynulliad, i Weinidogion Cymru ac i Senedd y DU – sydd i gyd wedi dangos eu bod yn barod ac yn gallu ymateb i’r dasg o sicrhau bod y broses ddeddfwriaethol newydd yn gweithio.
“Cynigiwyd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn wreiddiol gan y Gweinidog dros Addysg, ac yna sefydlwyd Pwyllgor yn y Cynulliad i graffu ar y cynnig. Bu pwyllgorau o Aelodau Seneddol ac aelodau o Dy’r Arglwyddi hefyd yn rhan o’r broses graffu. Cynigiwyd y Mesur gan y Gweinidog dros Iechyd, a bu sawl un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu arno cyn y bu’n destun dadl yn y cyfarfod llawn. Mae’n anochel y bydd gwaith craffu, trafodaeth a dadlau wrth ymdrin â chynigion deddfwriaethol, sy’n arwain at anghytuno ar brydiau. Dyna sydd wedi digwydd yn San Steffan erioed, a rhaid i ni ddisgwyl iddo ddigwydd ym Mae Caerdydd hefyd. Dyna yw democratiaeth ar waith.
“Clywsom lawer o amheuaeth gan rai pan basiwyd y Ddeddf, yn honni y byddai’r Cynulliad yn llusgo’i draed wrth ddefnyddio’i bwerau newydd. Roeddwn o hyd yn hyderus na fyddai hyn yn wir, ac felly y bu. Dywedais fy mod yn disgwyl gweld tua 18 darn o ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf y Ddeddf newydd, ac rydym yn debygol o gyrraedd y targed hwnnw! Ar hyn o bryd, mae gennym ddeg Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arall, yn ymwneud â meysydd mor eang â gwasanaethau iechyd, tai fforddiadwy a diogelwch tân, sydd i gyd rhywle yn y broses ddeddfwriaethol. Gweinidogion Cymru sydd wedi cynnig rhai ohonynt, ac Aelodau unigol, a enillodd falot i gyflwyno deddfwriaeth, a gynigiodd rai eraill. Cynhelir balot yn rheolaidd bob rhyw ddau fis, er mwyn rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad gyflwyno eu Gorchmynion neu eu mesurau eu hunain. Mae’r balot hwn yn rhoi’r gallu i unrhyw un gyflwyno deddfwriaeth ddrafft drwy eu Haelodau Cynulliad unigol, ac rwy’n annog y cyhoedd i gysylltu â’u Haelodau gyda’u syniadau ar gyfer deddfwriaeth.
“Mae wyth o gyfreithiau newydd Cymreig, sy’n cael eu galw’n Fesurau, hefyd yn cael eu datblygu, yn destun ymgynghoriad neu’n rhan o’r broses graffu ar hyn o bryd. Unwaith eto, Llywodraeth y Cynulliad sydd wedi cynnig rhai o’r rhain, ac Aelodau Cynulliad unigol sy’n gyfrifol am rai eraill. Maent yn ymwneud ag amryw o faterion sy’n bwysig i’r cyhoedd, gan gynnwys iawndal yn y GIG, bwyta’n iach mewn ysgolion, ailgylchu a chludiant ysgolion. Maent yn arwydd clir bod y Cynulliad yn barod i wneud pethau’n wahanol yng Nghymru a datblygu cyfreithiau Cymreig sy’n rhoi sylw i anghenion pobl Cymru.
“Rydym hefyd wedi clywed llawer yn yr wythnosau a’r misoedd diwethaf gan feirniaid y trefniadau datganoli presennol – y rhai sy’n gwrthwynebu datganoli’n llwyr a’r rhai sy’n credu nad yw’r pwerau presennol yn mynd yn ddigon pell a bod y broses ddeddfwriaethol newydd yn rhy gymhleth i weithio. Wel, y mae’n gweithio, ac nid yw’n fwy cymhleth na gweddill cyfansoddiad y DU. Wrth natur, rhaid i unrhyw broses sy’n arwain at gyfreithiau newydd fod yn gadarn a dylai gynnwys gwaith craffu priodol a hyd yn oed anghytuno ar brydiau. Un o’r pethau sydd wedi fy mhlesio yn y Trydydd Cynulliad yw gallu cynyddol yr Aelodau i gyflawni eu gwaith craffu newydd a phwysig, gan gynnwys craffu ar ddeddfwriaeth, a hynny yn y ffordd briodol. Mae ansawdd ac effeithiolrwydd corff cyfreithiol yn ddibynnol ar graffu ar gynigion deddfwriaethol cyn eu cyflwyno, ynghyd â chadw golwg ar y broses ddiweddarach o roi’r ddeddfwriaeth ar waith a’r canlyniadau. Fe wneir hyn drwy fesur y lefelau cydymffurfio a goblygiadau’r ddeddfwriaeth. Mae’r ansawdd yn ddibynnol hefyd ar eglurder y drafftio ac ar ddarparu gwybodaeth lawn i’r cyhoedd am y pwerau a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Os ydym am gael cyfreithiau sy’n addas i’w diben, rhaid i graffu cadarn barhau, a rhaid i ddeddfwriaethau a gweithrediaethau Cymru a’r DU barhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y system yn llwyddiant yng Nghymru.
“Rwyf wastad wedi dweud fy mod yn gefnogwr pragmatig o ddatganoli. Rwyf am ein gweld yn symud tuag at refferendwm ar bwerau fel sydd gan yr Alban ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, ond er mwyn cael cefnogaeth lwyr pobl Cymru i’r refferendwm o dan ein Cyfansoddiad, rhaid i ni ddangos ein bod yn defnyddio’r pwerau sydd gennym i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar ran pobl Cymru.”