Galw am system gryfach a mwy annibynnol ar gyfer cwynion yn y Senedd

Cyhoeddwyd 05/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2026

Dylid cyflwyno proses gwyno gryfach a mwy annibynnol yn y Senedd, yn ôl un o'i Phwyllgorau.

Mae adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y broses ar gyfer cwyno am fwlio ac aflonyddu rhywiol wedi gwneud 20 o argymhellion sydd â’r bwriad o helpu i sicrhau y gall unrhyw un sy’n gwneud cwyn fod yn hyderus y bydd y gŵyn yn cael ei thrin yn briodol.

Wrth wneud hynny, mae'r Pwyllgor yn cydnabod yr heriau sylweddol y mae unrhyw un sy'n codi pryderon ynghylch bwlio, aflonyddu neu ymddygiad amhriodol yn eu hwynebu. Gall anghydbwysedd pŵer, sy'n aml yn bresennol mewn sefyllfaoedd o'r fath, gael ei chwyddo mewn lleoliadau gwleidyddol. Mae'r Pwyllgor yn cadarnhau bod y rhai sy'n dod ymlaen yn haeddu cymorth clir a hygyrch a rhaid iddynt fod â hyder llwyr y bydd eu pryderon yn cael eu trin ag annibyniaeth, arbenigedd ac empathi.

Yn bwysig, mae'r adroddiad yn pwysleisio bod y gwaith hwn yn mynd y tu hwnt i fynd i'r afael â digwyddiadau difrifol yn unig; rhaid iddo hefyd gydnabod ac ymateb i gysylltiadau bob dydd a allai beri i unigolion deimlo'n anghyfforddus. Mae sicrhau bod y profiadau hyn yn cael eu dilysu yn hanfodol wrth greu gweithle lle mae codi pryderon yn cael ei ystyried yn ystyrlon ac yn werth chweil.

Er bod yr adroddiad yn amlinellu meysydd ar gyfer datblygiad tymor hwy, mae hefyd yn nodi camau ymarferol y gellir eu cymryd nawr. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau i gael mwy o annibyniaeth yn y system a gwella arbenigedd, gan gefnogi gwaith ehangach y Pwyllgor ar atebolrwydd cadarn ac effeithiol ar gyfer Aelodau unigol. Mae hefyd yn cynnig penodi aelodau lleyg i eistedd ochr yn ochr ag Aelodau o'r Senedd wrth ystyried adroddiadau, neu is-bwyllgorau wedi’u ffurfio o aelodau lleyg yn unig i ystyried adroddiadau a wneir gan staff a gyflogir gan Aelodau.

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd:

"Dylai fod dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol ac ymddygiad amhriodol, ac mae gwneud hyn yn golygu bod angen cymorth a sancsiynau priodol ar waith.  Mae angen i bobl deimlo bod codi pryderon yn werth chweil, a bod eu profiadau – yn enwedig y rhyngweithiadau bob dydd a allai wneud rhywun yn anghyfforddus – yn cael eu cydnabod, eu deall a bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.        

“Mae’r myfyriadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn rhan o broses barhaus sy’n ceisio gwella tirlun Safonau’r Senedd a sicrhau mwy o ymddiriedaeth, tryloywder a chymorth yn y system honno ac yn ein Senedd.

"Yr hyn a glywsom yn gyson drwy gydol yr ymchwiliad hwn oedd yr angen am fwy o gefnogaeth ac annibyniaeth yn y system.

“I ymateb i hyn, rydym yn argymell cymryd camau ar unwaith y gellir eu gweithredu i gryfhau annibyniaeth a gwella arbenigedd – gan barhau â gwaith ehangach y Pwyllgor ar sicrhau mecanweithiau cryf ac effeithiol ar gyfer atebolrwydd Aelodau unigol.”

Mwy o annibyniaeth yn y system

Mae aelodau lleyg wedi cael eu defnyddio gan Seneddau eraill i fynd i'r afael â'r problemau sy’n cael eu hachosi gan fod cwynion am Aelodau'n cael eu penderfynu gan eu cyfoedion eu hunain. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn gosod meini prawf dethol clir i wneud y mwyaf o arbenigedd aelodau lleyg – gan flaenoriaethu profiad mewn urddas a pharch, diwylliant y gweithle a thrin cwynion.

Mae'r argymhelliad hwn yn cydbwyso rôl graffu bwysig yr Aelodau â'r pryderon mewn perthynas â chwynion gan staff cymorth am yr Aelodau sy'n eu cyflogi drwy gynnig is-bwyllgor o aelodau lleyg yn unig ar gyfer y math hwnnw o gŵyn.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell penodi 'gwarcheidwad' sydd â'r pŵer i godi pryderon ynghylch urddas a pharch ar lefelau uchaf gweinyddiaeth y Senedd, teclyn rhoi gwybod am gwynion yn ddienw ac ailsefydlu llinell gymorth sy'n cynnig cymorth a chyngor.

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.