Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar ei Chyllideb Ddrafft i ailystyried sut mae'n cyfrifo cynnydd chwyddiant wrth ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Chwyddiant
Roedd y Pwyllgor trawsbleidiol wedi dadansoddi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Hydref, ac wedi amlinellu pryderon ynghylch sut y mae cynnydd chwyddiant wedi'i gymhwyso.
Canfu’r Pwyllgor nad yw’r ffigurau a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru yn llwyr adlewyrchu’r pwysau gwirioneddol y mae gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, yn enwedig ym maes iechyd, a llywodraeth leol. Mae hyn yn peri risg o doriadau mewn termau real i'r gwasanaethau hynny oni bai bod cyllid yn cael ei gynyddu.
Er mwyn cael darlun cywir o oblygiadau hyn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gwblhau asesiad o bwysau chwyddiant, ac i gyflwyno'r canfyddiadau hyn pan gyhoeddir y Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr.
Cynhyrchiant
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth hefyd fod cynhyrchiant Cymru “yn sylweddol is na chyfartaledd y DU” ac mai dim ond dull gweithredu hirdymor fydd yn dechrau mynd i’r afael â’r broblem hon.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn cwestiynu pam fod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban dargedau cynhyrchiant ond nad oes gan Gymru un. Mae'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun cynhyrchiant cenedlaethol, gyda thargedau clir, i fynd i'r afael â'r broblem.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Mae'r Gyllideb Ddrafft eleni yn arwain at fod y Pwyllgor yn pryderu nad yw'r pwysau chwyddiant y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu, yn enwedig ym maes iechyd a llywodraeth leol, yn cael eu cydnabod yn llawn yn y ffigurau a gyflwynwyd.
“Gofynnwn am ailasesu’r ffigurau hyn, er mwyn gwarchod rhag unrhyw doriadau mewn termau real a fyddai’n effeithio’n andwyol ar gymunedau ledled y wlad. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr o'r pwysau chwyddiant ac i gyhoeddi ei chanfyddiadau ochr yn ochr â'r Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr.
“Hefyd, dengys y dystiolaeth bod cynhyrchiant yn llusgo’n sylweddol yng Nghymru y tu ôl i gyfartaledd y DU. Yn wahanol i wledydd eraill y DU, nid oes gan Gymru dargedau cynhyrchiant ffurfiol ar hyn o bryd, a dyna pam mae'r Pwyllgor yn argymell cynllun cynhyrchiant cenedlaethol gyda thargedau clir a mesuradwy, fel y gallwn ddechrau cau'r bwlch hwn.
“Fel Pwyllgor, rydym hefyd yn ymwybodol ei bod yn debygol y bydd newidiadau sylweddol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol eleni. Edrychwn ymlaen at glywed gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn newydd ynglŷn â sut y bydd yn ymateb i'n hargymhellion, a beth fydd goblygiadau’r cynlluniau gwariant newydd hyn i Gymru.