Galwad am dystiolaeth-Diwydiant Cig Coch

Cyhoeddwyd 22/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Galwad am dystiolaeth-Diwydiant Cig Coch

Mae’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch  Diwydiant Cig Coch Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i glywed barn rhai sydd â diddordeb ar Orchymyn arfaethedig newydd  Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Sefydlwyd y Pwyllgor i graffu ar y Gorchymyn arfaethedig y Llywodraeth a fydd yn rhoi i’r Cynulliad y pwer i wneud ei gyfreithiau ei hun, a elwir yn Fesurau, ym maes amaethyddiaeth a datblygu gwledig.  Yn benodol, bydd yn galluogi i’r Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth mewn cysylltiad â datblygu, marchnata a hyrwyddo’r diwydiant cig coch yng Nghymru.                     

Wrth graffu ar y Gorchymyn arfaethedig, bydd y Pwyllgor yn ystyried:

  • Egwyddorion cyffredinol y Gorchymyn arfaethedig ac a ddylai cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym  ‘Mater 1.1’ gael ei roi i’r Cynulliad; a

  • Thelerau’r Gorchymyn arfaethedig, yn arbennig, a ydynt wedi’u diffinio’n rhy eang neu’n rhy gyfyng.   

Dywedodd Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor “Mae’r Pwyllgor hwn wedi cael y dasg o graffu ar gynigion y Llywodraeth i gael y pwerau a fydd yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i reoli datblygu, marchnata a hyrwyddo’r diwydiant cich coch yng Nghymru. Ein swyddogaeth ni yw sicrhau bod y pwer a geisir yn briodol a bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn addas i’w phwrpas. Mae’r Pwyllgor yn awyddus iawn i glywed barn unigolion a sefydliadau o fewn maes amaeth a datblygu gwledig, ac fe hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn hyn o beth i ymweld â’n gwefan a chyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor.”

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cwestiynau a ganlyn:

1. Beth yw eich barn am yr egwyddor cyffredinol bod cymhwysedd deddfwriaethol yn y maes a ddynodwyd ym Mater 1.1 yn cael ei roi i’r Cynulliad?

2.Beth yw eich barn am delerau’r Gorchymyn arfaethedig? Er enghraifft, a yw Mater 1.1 wedi’i ddiffinio’n rhy eang neu’n rhy gyfyng?

3. A oes angen cynnwys dehongliadau o ‘y diwydiant cig coch’, ‘gwartheg’ a ‘moch’ yn y Gorchymyn arfaethedig? Os felly, a yw’r dehongliadau a ddarparwyd yn briodol neu a ddylai unrhyw ychwanegiadau neu ddileadau gael eu gwneud?  

Gellir gweld manylion llawn ymgynghoriad y Pwyllgor ar wefan y Cynulliad yn:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-legislative-competence-orders/bus-legislation-lco-2008-no8-ag_rural_dev.htm

Gwahoddir rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad isod, i gyrraedd erbyn 19 Tachwedd 2008 fan bellaf. Os yn bosibl, rhowch fersiwn electronig o’ch adroddiad hefyd naill ai ar e-bost i’r legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu ar ddisg.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ac fe allant hefyd gael eu gweld a’u trafod mewn cyfarfodydd Pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb neu’ch enw gael ei gyhoeddi mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny ar ddiwedd eich cyflwyniad.                     

Aelodau’r Pwyllgor:

Mick Bates AC

Nerys Evans AC

Ann Jones AC

Val Lloyd AC

Brynle Williams AC

Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch  diwydiant cig coch Cymru