Geiriau o groeso gan y Llywydd i Ei Fawrhydi Y Brenin

Cyhoeddwyd 16/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Geiriau Llywydd y Senedd, y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, wrth agor sesiwn arbennig yn y Siambr ar ddydd Gwener 16 Medi 2022, er mwyn i'r Senedd gyflwyno Cynnig o Gydymdeimlad â'i Fawrhydi Y Brenin Charles III yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines.

Eich Mawrhydi, Aelodau'r Senedd, Westeion.

On behalf of the entire Senedd, I would like to extend a warm welcome to His Majesty the King and Her Majesty the Queen Consort on your first visit to the Senedd since the Queen's sad passing. We extend our warmest condolences to you and your family.

Croesawn eich Mawrhydi i'n Senedd heddiw a chynhigiwn ein cydymdeimlad diffuant ar farwolaeth drist eich mam, y Frenhines. Gwyddom fod cymaint o'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli wedi eu tristáu, hyd yn oed wedi'u siglo, gan y golled a’u bod yn eich cadw chi a’ch teulu yn eu calonnau a'u gweddïau ar hyn o bryd.

Wrth inni gwrdd yma heddiw i gyflwyno ein cynnig o gydymdeimlad, mae'n ingol inni feddwl mai dim ond 11 mis sydd ers ymweliad olaf y Frenhines â Chymru adeg agoriad swyddogol ein Chweched Senedd. Roedd y Frenhines mewn hwyliau gwych y diwrnod hwnnw. Rhannodd nifer o Aelodau eu hanesion o'r ymweliad hwnnw pan wnaethom ni gwrdd i dalu teyrnged i'r Frenhines a thrafod ein cynnig o gydymdeimlad yn y Senedd ddydd Sul. Ac wrth iddi ein gadael, un ar ddeg mis yn ôl, rwy'n gobeithio i Ei Mawrhydi gofio gwên siriol Ffion Gwyther, yr actor ifanc o Ffwrnais, Llanelli, y person olaf y cyfarfu â hi y diwrnod hwnnw yng Nghymru, a oedd yn wên o glust i glust wrth iddi gyflwyno tusw o flodau i'r Frenhines.

Roedd y straeon a'r teyrngedau a dalwyd gan yr Aelodau i’r Frenhines wrth inni ymgynnull ddydd Sul yn gynnes ac yn ffraeth. Fel y gallwch ddychmygu efallai, roedd yna lawer o sôn am gorgis - ei chymdeithion Cymreig cyson ar hyd ei hoes. Corgi, gair Cymraeg. Yn llythrennol, ci bach. Ac wrth gwrs, roedd ein Haelodau sy’n cynrychioli Sir Benfro yn arbennig o awyddus i hyrwyddo ei hoffter o gorgi Sir Benfro. Ac roedd yr Aelod dros Geredigion, fi, yn dawel, ac ychydig yn eiddigeddus, o ddewis y Frenhines o gorgi Sir Benfro yn hytrach na chorgi Sir Aberteifi.

The Queen was with us for each of the six official openings of this Senedd – and on each occasion, she noted the growth of our powers and the actions that we had taken on behalf of the people of Wales. She respected this Senedd as an expression of the democratic will of the people of Wales.

Roedd y Frenhines gyda ni ym 1999 ar gyfer agoriad swyddogol ein Cynulliad newydd cyntaf. Mae hi wedi rhannu ein taith ddatganoli. Cymerodd ran ym mhob un o'n 6 agoriad swyddogol, gan gyfeirio bob tro at ddatblygiad ein pwerau a dod yn Senedd Cymru, yn 'senedd genedlaethol'. Roedd y Frenhines yn parchu’r Senedd hon oherwydd ei bod yn parchu dewisiadau democrataidd pobl Cymru. Gwelodd ni'n dod i oed ac roedd ganddi ddiddordeb yn ein camau nesaf.

O Senedd gyntaf Glyndŵr yn y bymthegfed ganrif ym Machynlleth i'r un yr ydym wedi ymgasglu ynddi heddiw, mae ein stori’n hen ond mae ein democratiaeth yn ifanc ac yn uchelgeisiol.

Fy ngobaith diffuant yw y bydd y berthynas fodern rhwng y Senedd hon, y wlad hon a'r teulu brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch a'i chynnal gan ddealltwriaeth.

The story of our land, our nation, is a long one, but the story of our Senedd is new and modern. Our eyes are on the future, and I am confident that our co-operation with you, the King, and with the royal family, will reflect that.

Ac wrth i ni gofio heddiw ymrwymiad parhaus y Frenhines i'n Senedd, edrychwn ymlaen hefyd at gysylltiad y Brenin â'r Senedd yn y dyfodol a'n gwaith ar ran pobl Cymru.

Nawr, rwy'n gwahodd y Prif Weinidog i gyflwyno’r Cynnig o Gydymdeimlad i Ei Fawrhydi Y Brenin.

Cafodd yr araith ei chyflwyno yn ddwyieithog

Gwyliwch y sesiwn hanesyddol ar Senedd.tv

Mwy am ymweliad Ei Fawrhydi â'r Senedd