Grŵp arbenigol ar newid yn yr hinsawdd i gael ei sefydlu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 31/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2016

Mae grŵp cyfeirio, sy'n cynnwys arbenigwyr mewn newid yn yr hinsawdd, yn cael ei sefydlu gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol. Y nod yw helpu'r Pwyllgor i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyrraedd targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Penderfynodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig sefydlu grŵp cyfeirio arbenigol i gynorthwyo â'i waith. Digwyddodd hyn ar ôl cyfarfod â rhanddeiliaid i drafod yr ymagwedd y mae angen i'r Pwyllgor ei chymryd tuag at sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei ymrwymiadau newid hinsawdd.

Yn 2010 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar y newid yn yr hinsawdd, a oedd yn nodi targedau gan gynnwys gostyngiad mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o dri y cant o flwyddyn i flwyddyn mewn meysydd datganoledig, a 40 y cant yng nghyfanswm yr allyriadau erbyn 2020. Ond aeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ymhellach, gan roi dyletswyddau statudol ar Lywodraeth Cymru a chyflwyno dull cyllidebu carbon newydd i fesur cynnydd tuag at leihau allyriadau.

Ymhlith y dyletswyddau a geir yn y Ddeddf mae'r canlynol:

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr allyriadau net ar gyfer Cymru yn 2050 o leiaf 80 y cant yn is na'r llinell sylfaen (1990 neu 1995), gyda Llywodraeth Cymru yn gallu cynyddu'r targed hwn;
  • Erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040;
  • Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu cyfanswm uchaf ar gyfer allyriadau net ar gyfer Cymru (cyllideb garbon); a
  • Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried cytundebau rhyngwladol er mwyn cyfyngu ar unrhyw gynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd.

"Mae sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i gyfrif am ei pholisïau a'i chamau gweithredu o ran mynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth allweddol," meddai Mark Reckless AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

"O dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae'r Llywodraeth wedi gosod rhai targedau anodd iddi ei hun o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, sydd wedi eu hymgorffori yn y gyfraith, felly mae cynllun cydlynol ac uchelgeisiol i gyrraedd y targedau hynny yn hanfodol."

Am y rhesymau hyn, rydym wedi penderfynu sefydlu grŵp cyfeirio arbenigol i roi cyngor i'r Pwyllgor ynglŷn â'i waith ar newid yn yr hinsawdd"

 

Mae'r Pwyllgor yn y broses o gwblhau cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp a sefydlu ei aelodaeth. Bydd yn cyhoeddi adroddiad sy'n nodi ei ymagwedd gyffredinol tuag at graffu ar newid yn yr hinsawdd cyn diwedd y flwyddyn.

Mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn fater trawsbynciol ac felly bydd Aelodau yn awyddus i weithio gyda phwyllgorau eraill y Cynulliad er mwyn sicrhau bod eu gwaith yn cyfrannu at yr agenda newid yn yr hinsawdd.

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn codi hyn gyda holl Gadeiryddion Pwyllgorau'r Cynulliad mewn cyfarfod ar 18 Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig