Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia i ymweld â Phrifysgol Bangor

Cyhoeddwyd 17/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia i ymweld â Phrifysgol Bangor

Mae’r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia, sy’n cynnwys aelodau o Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru,  i ymweld â’r Uned Ddyslecsia yn yr Ysgol Seicoleg a Chanolfan Cymru ar gyfer Hybu Rhaglen y Blynyddoedd Anhygoel ym Mhrifysgol Cymru, ddydd Gwener 18 Ionawr.

Bydd y grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad (Alun Cairns, Jeff Cuthbert, Janet Ryder and Kirsty Williams) yn ymweld â’r Uned Ddyslecsia i ddysgu mwy am ymchwil ddyslecsia yn yr ysgol, dulliau asesu cyfrwng -Cymraeg a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer dysgu ac asesu. Bydd yr Aelodau’n cwrdd â rhieni ac athrawon disgyblion sydd â dyslecsia.

Ar ôl hyn, ymwelir â Chanolfan Cymru ar gyfer Hybu Rhaglen y Blynyddoedd Anhygoel sydd hefyd yn y Brifysgol.  Datblygwyd y rhaglen hon, sef Y Blynyddoedd Anhygoel, yn Seattle, UDA, ac mae’n cynnwys tair rhaglen wedi’u cydgysylltu ar gyfer plant, athrawon a rhieni – rhaglenni a luniwyd i helpu plant sydd ag anhwylderau ymddygiad a’u teuluoedd.

Cyn hyn, mae’r Aelodau wedi ymweld â Chanolfan Dore Caerdydd, Coleg Glannau Dyfrdwy, British Dyslexics, Ysgol Bryn Coch (ysgol sy’n ystyriol o ddyslecsia) a Chanolfan Daniel Owen lle y cawsant weld  Fast For Word, pecyn TG sy’n helpu pobl â dyslecsia.

Mwy o fanylion am y Pwyllgor Menter a Dysgu