Gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn destun pr yderon sylweddol ynghylch gwerth am arian

Cyhoeddwyd 22/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad i gôst y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, a'r angen am y gwasanaeth, cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynghylch a ddylai'r gwasanaeth barhau.

Mae'r gwasanaeth wedi bod yn cynnal teithiau ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos ers 2007 ac wedi cael cefnogaeth ariannol ar ffurf cymhorthdal ​​gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o gefnogi gwasanaeth na fyddai, fel arall, yn ymarferol yn fasnachol.

Mae'r cronfeydd hyn wedi cael eu capio ar £1.2 miliwn ar hyn o bryd, ar ôl cynnydd o £300,000.

Mae'r gwasanaeth wedi cludo 65,073 o deithwyr rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2013 am gyfanswm amcangyfrifedig o £9.01 miliwn, sy'n cynnwys costau rhedeg a datblygu'r maes awyr. Mae niferoedd teithwyr hefyd wedi gostwng 43% ers uchwafbwynt yn 2008-09.

Os yw'r gwasanaeth i barhau, mae'r Pwyllgor wedi argymell yn gryf y dylai'r gweithredwr newydd llwyddiannus lunio strategaeth farchnata gynhwysfawr mewn ymgais i gynyddu nifer y teithwyr a'r nifer sy'n ymwybodol o'r gwasanaeth.

Cyfanswm y gyllideb farchnata ar hyn o bryd yw £20-25,000, ac mae gweithgarwch wedi cynnwys mynychu sioeau awyr Abertawe ac Ynys Môn a hysbysebu rheolaidd ar y radio. Er y bu'n llwyddiannus yn y lle cyntaf, byddai'r Pwyllgor yn hoffi gweld hyn yn gwella, er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian unwaith eto, er enghraifft drwy hyrwyddo'r gwasanaeth bws sy'n cysylltu â'r gwasanaeth awyr a hediadau i lefydd eraill.

Nododd y Pwyllgor anghysondebau rhwng data ar nifer y teithwyr a gyfrannwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a'r Awdurdod Hedfan Sifil. Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylid gwneud gwiriad annibynnol o'r ffigurau, ynghyd â dadansoddiad o ddata am deithwyr, i greu darlun cliriach ynghylch pwy sy'n defnyddio'r llwybr hwn, ac a yw'r tocynnau yn cael eu hariannu gan drethdalwyr.

"Mae'r Pwyllgor yn parhau i bryderu bod y gwasanaeth hwn yn tanberfformio o ran darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru," meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae'n rhaid rhoi sylw i'r diffyg data dibynadwy ac annibynnol ynghylch nifer y teithwyr, gan gynnwys y mathau o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

"Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu, os yw'r gwasanaeth i barhau gyda chefnogaeth cyllid cyhoeddus, y dylai ymgyrch marchnata cryf fod yn rhan o unrhyw gontract a ddyfernir."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ffynhonnell annibynnol i wirio data ar nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth awyr, ac y dylai data ar nifer y teithwyr gael ei gyhoeddi yn rheolaidd yn y dyfodol;

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnwys gofyniad penodol mewn unrhyw dendr yn y dyfodol ar gyfer rhaglen farchnata gynhwysfawr gan y cynigydd llwyddiannus; ac

  • Mae'r Pwyllgor yn argymell bod gwybodaeth ar deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth awyr yn cael ei gasglu i weld y sectorau lle mae teithwyr yn cael eu cyflogi, ac i ba raddau y mae teithiau yn cael eu hariannu gan y trethdalwr. Dylai gwybodaeth o'r fath gael ei gyhoeddi a'i gasglu yn rheolaidd.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ar gael yma.