Gwasanaethau Ambiwlans Cymru anghyson yn parhau i siomi cleifion

Cyhoeddwyd 27/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwasanaethau Ambiwlans Cymru anghyson yn parhau i siomi cleifion

Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn parhau i’w chael hi’n anodd cadw at amseroedd ymateb ar gyfer galwadau brys ac mae’n rhoi bywydau mewn perygl yn ôl Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar y gwasanaeth, mae nifer y galwadau a atebwyd o  fewn yr 8 munud targed wedi syrthio mor isel â 47.6 y cant ym mis Rhagfyr 2008.

Yn fwy diweddar, cododd y ffigur hwnnw i 65 y cant, ond nid yw Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn credu bod digon o gynnydd wedi bod:

Mae’r Pwyllgor yn pryderu nad yw targedau - a bennwyd i sicrhau bod galwadau brys 999 yn cael eu hateb yn brydlon - yn cael eu cyrraedd yn gyson ac, ar adegau, bod perfformiad yn syrthio’n llawer is na’r lefel gofynnol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu bod ymdrechion yr Ymddiriedolaeth i wneud arbedion effeithlonrwydd wedi cael effaith andwyol ar berfformiad.”

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi arbed £17 miliwn ond mae hyn wedi effeithio ar staff rheng flaen. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi dweud bod cyfnod annisgwyl o dywydd oer fis Rhagfyr ddiweddaf wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd. Mae’r Pwyllgor wedi gwrthod yr honiad hwn fel un annerbyniol.

Mae’r pryderon eraill yn ymwneud â faint o amser mae ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau brys ysbytai yn aros i drosglwyddo cleifion.

Mae Mr Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio’n credu bod hyn yn peryglu bywydau’n ddiangen: Gall oedi hir cyn trosglwyddo cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys olygu bod parafeddygon yn aros gyda chleifion mewn coridorau sy’n golygu nad ydynt ar gael i ateb galwadau 999. O ran claf mewn adran damweiniau ac achosion brys, mae’n annerbyniol ei fod yn gorfod aros am gyfnod hir. O ran claf yn y gymuned sy’n aros am ymateb i alwad 999, gallai’r sefyllfa fod yn angheuol.”

Dyma rai o argymhellion y Pwyllgor Archwilio i Lywodraeth Cynulliad Cymru:

·Sefydlu cynlluniau cadarn i sicrhau bod amrywiadau tymhorol rhagweladwy yn cael eu rheoli’n well dros fisoedd y gaeaf.

·Cael gwybodaeth am amseroedd ymateb ambiwlansys yn fwy aml, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. Dylid darparu gwybodaeth o’r fath erbyn mis Chwefror 2010.

·Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru graffu ar gasgliadau astudiaethau sy’n cael eu cynnal i dargedau ansoddol a’i bod yn ystyried newid y targedau meintiol.

Cliciwch i weld yr addrodiad yn Gymraeg