Gwasanaethau iechyd meddwl ‘Sinderela’ yng Nghymru yn is na’r safon dderbyniol

Cyhoeddwyd 16/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwasanaethau iechyd meddwl ‘Sinderela’ yng Nghymru yn is na’r safon dderbyniol

Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Dyna farn Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol sydd heddiw wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad i’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod iechyd meddwl yn aml yn cael ei ystyried fel ‘gwasanaeth Sinderela’ oherwydd ei ddiffyg statws cymharol ymysg gwasanaethau arbenigol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’n argymell y dylai’r Llywodraeth ystyried yr ailstrwythuro presennol sy’n digwydd yn y GIG fel cyfle i wneud iawn am yr anghydbwysedd hwn a rhoi blaenoriaeth uwch i wasanaethau iechyd meddwl yng nghyrff newydd y GIG.  

Mae hefyd yn nodi na chafodd y Fframwaith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cenedlaethol – sef y prif ddull o wella gwasanaethau – ei weithredu’n llawn ac mai cyfyngedig fu ei lwyddiannau.

“Bob blwyddyn, bydd un ym mhob pedwar ohonom yn profi problem iechyd meddwl ac ar unrhyw adeg bydd un ym mhob  chwech ohonom yn profi iechyd meddwl gwael,” dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Nid problem i rywun arall mohoni. Gall iechyd meddwl gwael gael effaith ddifrifol ar ein hansawdd bywyd a’n hynysu rhag  ein ffrindiau, ein teuluoedd a chymdeithas.

“Ein hargraff gyffredinol yw bod argaeledd ac ansawdd y gwasanaethau hyn yn amrywio’n sylweddol ar draws y wlad. Er bod rhai elfennau ohonynt wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, mae tipyn o ffordd i fynd cyn bod gwasanaethau’n cyrraedd safon dderbyniol sy’n gyson ledled Cymru.”

Mae’r adroddiad hefyd yn cwestiynu pa mor addas y gall gwasanaethau gofal sylfaenol – fel meddygfeydd teulu – weithredu fel y cyswllt cyntaf i bobl â phroblemau gofal iechyd meddwl.

Mae diffyg mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig hefyd yn fater sy’n cael ei feirniadu, ac mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Llywodraeth ystyried gwneud defnydd ehangach o unedau bach lleol er mwyn lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty a chaniatáu i bobl aros am gyfnodau byr yn nes at eu cartrefi.

Cliciwch i weld y ddogfen

VIDEO URL: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_900002_11_09_2009&t=-1

VIDEO EMBED CODE: <object width="525" height="250"><param name="movie" value="http://www.senedd.tv/main.swf?i=true&t=-1&v=en_900002_11_09_2009"></param><param name="allowFullScreen" value="true"></param><param name="allowscriptaccess" value="always"></param><embed src="http://www.senedd.tv/main.swf?i=true&t=-1&v=en_900002_11_09_2009" type="application/x-shockwave-flash" allowscriptaccess="always" allowfullscreen="true" width="525" height="250"></embed></object>