Yr wythnos hon, daeth Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, sef elusen o Gaerdydd, ar ymweliad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd.
Cafodd Gweithredu yng Nghaerau a Threlái ei greu drwy raglen Cymunedau yn Gyntaf Caerau a Threlái yn 2011. Gan adeiladu ar hanes cryf o waith datblygu yn y gymuned, ei nod yw datblygu a darparu amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwahanol i adfywio a gwella cymunedau yng Nghaerau a Threlái. Y nod yw dod â'r gymuned ynghyd, cefnogi grwpiau cymunedol, rheoli a datblygu prosiectau lleol a hyrwyddo anghenion Trelái a Chaerau gyda'r Cyngor a darparwyr gwasanaethau eraill.
Daeth y grŵp ar ymweliad â'r Senedd i weld sut y gallent gymryd rhan a chael eu clywed.
Dyma a ddywedodd Helena Jones, sy'n gweithio i Gweithredu yng Nghaerau a Threlái:
"Mae llawer o bobl yn ein cymunedau yn teimlo nad oes ganddyn nhw lais ac nad oes ganddyn nhw ran i'w chwarae wrth sicrhau ein bod ni i gyd yn byw mewn cymuned ddiogel a chadarn. Rydyn ni wedi dod i'r Cynulliad heddiw i dynnu sylw at waith yr aelodau a sicrhau bod pobl Caerau a Threlái yn gwybod sut i ymgysylltu a chael eu clywed."
Dywedodd Marian Davies, a oedd yn rhan o'r ymweliad:
"Roedd y daith yn ddifyr iawn. Doeddwn i ddim yn gwybod ei bod hi mor hawdd dod ar ymweliad a chymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad. Cefais fy siomi ar yr ochr orau!"
Ar ôl mynd ar daith, cafodd y grŵp sesiwn gydag un o'r gweithwyr allgymorth i ddysgu rhagor am waith y Cynulliad a'r rôl y gallan nhw ei chwarae.
Os oes gan eich grŵp chi ddiddordeb mewn trefnu ymweliad â'r Senedd, ffoniwch 0300 200 6565.