Gwersi i'w dysgu o'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd 09/03/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwersi i'w dysgu o'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng Nghaerdydd

9 Mawrth 2006

Mae adroddiad gan Bwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn amlygu diffygion y broses dendro ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yng Nghaerdydd. Mae'n dod i'r casgliad bod diffygion difrifol yn yr archwiliadau a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol (BILl) Caerdydd i asesu capasiti ariannol a chlinigol Clinical Solutions UK/Europe (CSUK) cyn dyfarnu'r contract, a bod dim modd cyfiawnhau'r arian ychwanegol a ddyfarnwyd i CSUK.

Ym mis Ebrill 2004, dyfarnodd BILl Caerdydd gontract i CSUK, cwmni a sefydlwyd yn ddiweddar, ar gyfer darparu gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, yn dilyn proses dendro gystadleuol. Yn fuan ar ôl i'r gwasanaeth ddechrau gweithredu, dyfarnodd BILl Caerdydd £59,000 ychwanegol i CSUK i reoli'r risgiau i ddiogelwch cleifion a achosir gan gyfnodau annerbyniol o amser cyn dychwelyd galwadau yn ystod penwythnosau. Mae'r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer cyrff yn y sector cyhoeddus i'w cynorthwyo i wella'r ffordd y byddant yn tendro, dyfarnu a rheoli contractau yn y dyfodol. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: 'Mae yna wersi pwysig i'w dysgu o ddiffygion y byrddau iechyd lleol yn y ffordd y maent yn dyfarnu ac yn rheoli'r contract ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol yng Nghaerdydd. Gobeithio y bydd argymhellion y Pwyllgor yn helpu i ofalu na chaiff camgymeriadau tebyg eu gwneud yn y dyfodol.'