Gwleidyddion i gael eu holi gan 300 o fyfyrwyr o Bontypridd

Cyhoeddwyd 03/11/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwleidyddion i gael eu holi gan 300 o fyfyrwyr o Bontypridd



3 Tachwedd 2011


Ddydd Gwener 4 Tachwedd, bydd 300 o fyfyrwyr chweched dosbarth yn holi pedwar Aelod Cynulliad mewn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd.

Bydd y myfyrwyr, sy’n dod o dair ysgol uwchradd ym Mhontypridd, yn holi Mick Antoniw AC, Andrew RT Davies AC, Eluned Parrot AC a Leanne Wood AC ar bynciau a fydd yn cynnwys ailgylchu, iechyd, yr economi, addysg a’r amgylchedd.

Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan Dilwyn Young-Jones, swyddog allgymorth addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ne Cymru.

Dywedodd: “Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn uniongyrchol yn y broses ddemocrataidd, drwy holi eu gwleidyddion etholedig am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd.

“Nid oes gennyf amheuaeth y bydd safon cwestiynau’r myfyrwyr—y mae llawer ohonynt yn astudio gwleidyddiaeth—yn uchel, ac rwy’n gobeithio y bydd digwyddiad heddiw yn eu hannog i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru.”

Trefnwyd y digwyddiad gan wasanaeth allgymorth addysg y Cynulliad Cenedlaethol, ar y cyd â Ceri Wilson, Pennaeth Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Uwchradd Hawthorn. Cynhelir y digwyddiad rhwng 14.00 a 15.00.