Gwobr PinkNews yn glod i weithle cyfeillgar Comisiwn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2019

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill gwobr PinkNews am waith blaenllaw i sicrhau cydraddoldeb LGBT+ yn y Sector Cyhoeddus. 

Mae cydraddoldeb a hawliau LGBT+ yn ganolog i weithgaredd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel gweithle ble mae pawb yn cael eu trin yn hafal. Yn rhan allweddol o hynny mae rhwydwaith LGBT+ mewnol gref, o'r enw 'OUT-NAW', sy'n cynnwys aelodau LGBT+ a chyfeillion sy'n cynnig cefnogaeth i staff ac yn hyrwyddo cynhwysiant a pharch yn y gweithle. 

Dywed Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth ymateb i'r cyhoeddiad am y wobr PinkNews; "Mae'r wobr bwysig hon yn deyrnged i'n holl staff am eu hystyriaethau beunyddiol sy'n golygu fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn le diogel a chroesawgar i bawb weithio ynddo. Rwy'n hynod falch fod eu hymrwymiad nhw wedi'i gydnabod gan PinkNews fel sefydliad blaenllaw yn y Sector Gyhoeddus." 

Mae PinkNews yn flaenllaw wrth hyrwyddo hawliau a phrofiadau LGBT+. Mae'n sefyll dros hawliau sylfaenol y gymuned LGBT+ ac mae eu gwobrau blynyddol yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiant unigolion, y gymuned LGBT+ a'u cyfeillion. 

Cafodd noson wobrwyo PinkNews eu cynnal yn Llundain ar nos Fercher 10 Hydref 2019. 


Bleddyn Harris, Swyddog Datblygu Sefydliadol ac cyd-gadeirydd rhwydwaith staff LGBT+ Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dderbyniodd y wobr ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.