Gŵyl GWLAD ar daith i Gaernarfon, Wrecsam a Caerfyrddin

Cyhoeddwyd 28/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/10/2019



Mae GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol ar daith ym mis Tachwedd, i sbarduno sgwrs am ddyfodol Cymru a’i chymunedau mewn tair tref wahanol. 
  • Galeri Caernarfon: Sadwrn 16 Tachwedd 
  • Canolfan Catrin Finch, Wrecsam: Sadwrn 23 Tachwedd
  • Canolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin: Sadwrn 30 Tachwedd 
Mae’r tair gŵyl undydd rhad ac am ddim yn rhan o raglen o weithgareddau i nodi 20 mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’r pwyslais ar drafod syniadau, dyheadau a gweledigaeth ar gyfer Cymru yn yr ugain mlynedd i ddod.

I sbarduno’r drafodaeth bydd sgwrs banel yn gyfle i rannu syniadau o safbwynt yr ardal yng nghyd-destun Cymru gyfan. Ar bob panel bydd pobl leol, sy’n ddylanwadol yn eu meysydd, yn ogystal ag Aelodau Cynulliad lleol ac aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Y bobl sy’n mynychu sy'n gosod y pynciau trafod, gyda chyfle i gyflwyno cwestiynau o flaen llaw ac o’r llawr yn ystod y sesiwn. Mae GWLAD yn ddigwyddiad am ddim, ond bydd angen archebu tocyn er mwyn mynychu’r drafodaeth drwy archebu ar wefan datganoli20.cymru/gwlad 

Ym mhob un o’r gwyliau, bydd hwyl a gweithgareddau i’r teulu yn rhan fawr o’r dathliadau undydd. Bydd perfformiadau, sioeau, gweithdai a gemau i’w mwynhau gan gynnwys sioe newydd sy’n adrodd stori’r Cynulliad gan y cwmni theatr addysg Mewn Cymeriad. 

Meddai Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 

“Wrth nodi 20 mlynedd o ddatganoli, ry’ ni’n canolbwyntio ar drafod y dyfodol a sbarduno sgwrs  gyda phobl Cymru am y wlad ry’ ni am fyw ynddi yn y degawdau i ddod. Bydd y tri digwyddiad yng Nghaernarfon, Wrecsam a Caerfyrddin yn canolbwyntio ar faterion o bwys i’r ardaloedd yma, ac yn denu sylw at arwyddocâd hynny yng nghyd-destun Cymru gyfan.

“Yn ystod yr ŵyl ym Mae Caerdydd ym mis Medi, fe wnaethom glywed syniadau dewr ac uchelgeisiol ar draws nifer eang o bynciau. Bu cytuno ac anghytuno ar lwyfan oedd yn caniatáu trafodaeth ac ry’ ni’n edrych ymlaen at weld hyn yn digwydd eto wrth i GWLAD fynd ar daith.” 


GWLAD yn lwyfan ar gyfer syniadau beiddgar ac uchelgeisiol

Bydd y tair gŵyl undydd yn ychwanegu at y sgyrsiau gafodd eu hysgogi yn ystod gŵyl GWLAD ym Mae Caerdydd rhwng 25-29 Medi. Yno fe rannodd rhestr faith o gyfranwyr eu gweledigaeth ar gyfer Cymru’r dyfodol.  Ymhlith y rhai fu’n cymryd rhan roedd enwau adnabyddus fel Charlotte Church, Rhys Ifans, Tanni Grey-Thompson a Colin Charvis. Bu sawl sgwrs am newyddiaduraeth gyda Carole Cadwalladr, Seren Jones, Guto Harri ac eraill, ac fe ddaeth amrywiaeth, cydraddoldeb, democratiaeth, chwaraeon, celfyddydau a’r iaith dan y chwyddwydr mewn degau o drafodaethau dros bum niwrnod.

Mae’r sesiynau a’r sgyrsiau ar gael i’w gwylio ar alw ar wefan datganoli20.cymru/gwlad neu Senedd TV.


Hanes y Cynulliad, drwy lygaid Swyddog Diogelwch y Senedd

Ymhlith gweithgareddau arbennig gŵyl GWLAD ar daith, bydd sioe sydd wedi ei chomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur. Y cwmni theatr mewn addysg Mewn Cymeriad sy’n cyflwyno sioe am hanes y Cynulliad, wedi ei adrodd gan swyddog diogelwch y Senedd. 

Elin Llwyd  yw’r actores sy’n chwarae rhan Meg y storïwr a’r swyddog diogelwch, ac mae’r sioe wedi ei ysgrifennu gan yr awdures a’r bardd Anni Llŷn. Bydd cyfle i weld y sioe ddwyieithog ddwywaith y dydd ym mhob lleoliad.