Have your say on neonatal services in Wales

Cyhoeddwyd 15/02/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Dweud eich dweud am wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru

15 Chwefror 2010

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol am gynnal ymchwiliad i wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru.

O’r 33,000 o fabanod a gaiff eu geni yng Nghymru bob blwyddyn, caiff pedair mil eu derbyn i 13 uned arbenigol yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn gofyn a oes gan yr unedau hyn ddigon o staff a chyllid i ymdopi â’r galw cynyddol a fydd o bosibl yn deillio o’r cynnydd yn y gyfradd genedigaethau.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: “Mae’r staff mewn unedau newyddenedigol yn gofalu am y bobl mwyaf dibynnol a brau mewn ysbyty, babanod cynamserol a babanod pwysau geni isel.

“Mae’n hanfodol bod ganddynt ddigon o adnoddau a chefnogaeth i ymdopi â galw cynyddol a dyma’r ddau brif gwestiwn y bydd y Pwyllgor yn eu gofyn yn ystod yr ymchwiliad hwn.

“Mae ymchwiliadau o’r math yma yn emosiynol bob amser i Aelodau’r Pwyllgor ac i’r rhai sy’n rhoi tystiolaeth. Ond hoffwn annog rhai sydd â phrofiad o wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru i roi eu barn, boed honno’n farn gadarnhaol neu negyddol.”

Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y meysydd a ganlyn fel rhan o’i ymchwiliad:

– Trefniadau ar gyfer monitro rhoi ar waith Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan, yn unol â safonau staffio’r Gymdeithas Brydeinig Meddygaeth Amenedigol ac adolygiad Comisiwn Iechyd Cymru.

– Strategaeth tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gofal newyddenedigol a holi a ystyrir y strategaeth yn rhan integredig o wasanaethau mamolaeth.

– Trafod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y nyrsys newyddenedigol, bydwragedd a meddygon ymgynghorol newyddenedigol.

– Y trefniadau ariannu sy’n bodoli ar gyfer datblygu mynediad pedair awr ar hugain at wasanaethau trafnidiaeth newyddenedigol pwrpasol i’r holl unedau yng Nghymru.

– Rhagor o gefnogaeth i rieni.

– Effaith diwygio’r Gwasanaeth Iechyd ar wasanaethau newyddenedigol yng Nghymru.

– Sgrinio ar gyfer colli clyw.

Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad ebostio health.wellbeing.localgovt.comm@wales.gsi.gov.uk neu anfon eu barn drwy’r post at y: Clerc, Y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA.