‘Hawl i Holi’ y Cynulliad yn taro deuddeg yn Ysgol Bryn Elian

Cyhoeddwyd 23/10/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

‘Hawl i Holi’ y Cynulliad yn taro deuddeg yn Ysgol Bryn Elian

Bu sesiwn ‘Hawl i Holi (“Question Time”) yn boblogaidd iawn gyda disgyblion Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn yn ddiweddar.  Rhoddodd y digwyddiad, a gynhaliawyd ar Ddydd Gwener Hydref 10fed ac a drefnwyd gan Wasanaeth Allgymorth Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngogledd Cymru gyfle gwerthfawr i bobl ifanc gwestiynu gwleidyddion lleol.  Ymhlith y materion a godwyd roedd cyfleusterau chwaraeon yng Ngogledd Cymru, ariannu ar gyfer hosbisau, pas bysiau, y frwydr yn erbyn troseddau’n ymwneud â chyllyll, a phwerau’r Cynulliad.   Roedd y panel yn cynnwys Darren Millar, yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd, Brian Cossey, y cynghorydd lleol dros Golwyn a’r ymgeiswyr seneddol lleol Donna Hutton a Llyr Huws Gruffydd.

Wrth sôn am y digwyddiad dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Yr oedd hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ddysgu am y broses ddemocrataidd yng Nghymru ac i herio gwleidyddion a darpar wleidyddion ynglyn â beth allant ei wneud i wella’n cymunedau a gwneud newidiadau i fywydau pobl ifanc. Cyn y digwyddiad hwn yr oedd myfyrwyr yn yr ysgol eisoes wedi cymryd rhan mewn gweithdai a drefnwyd gan Swyddog Addysg y Cynulliad yng Ngogledd Cymru. Yr oedd y gweithdai’n rhoi dealltwriaeth dda iddynt o’r modd mae’r Cynulliad yn gweithio a sut mae’n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.”