“Rhaid gofalu nad yw pobl sy’n aros am driniaeth yn teimlo’n angof” – Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd 02/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mewn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilio Cymru, am amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau Orthopedig y GIG, mae Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn dweud bod sicrhau cymorth digonol i’r rhai sy’n aros am driniaeth yn gwbl hanfodol:

Meddai Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Rwy’n cefnogi canfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, yn enwedig ei bwyslais ar ddarparu cymorth digonol i bobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth Orthopedig. Roedd pwysigrwydd cefnogi pobl i fyw’n iach wrth aros am driniaeth yn un o ganfyddiad allweddol adroddiad y Pwyllgor ar amseroedd aros y GIG, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2022. Rhaid gofalu nad oes neb yn teimlo’n angof.

“Rydym yn parhau i fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lleihau’r ôl-groniad ac, mewn llythyr diweddar at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rydym yn cydnabod bod cynnydd yn cael ei wneud. Fodd bynnag, mae gwelliannau’n arafach nag a ragwelwyd yn rhaglen Llywodraeth Cymru ac o ystyried nifer y cleifion sy’n dal i aros i gael eu gweld, mae’n rhaid gwneud mwy er mwyn clirio’r ôl-groniad.”

Yn barhaus, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn monitro cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros y GIG. Cyhoeddwyd adroddiad monitro diweddaraf y Pwyllgor ym mis Chwefror 2023.

Mae adroddiad Archwilio Cymru - Gwasanaethau Orthopedig yng Nghymru – Mynd i’r Afael ag Ôl-groniad y Rhestr Aros-  ar gael yma