Hwyl i’r teulu yn y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi
26 Chwefror 2014
Bydd paentio wynebau, gwneud crefftau a gweld arddangosfeydd coginio yn ddim ond rhai o’r gweithgareddau hwyliog a gaiff eu cynnig wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddathlu Dydd Gwyl Dewi yn y Senedd ar 1 Mawrth.
Caiff ymwelwyr brofi rhai o gynnyrch gorau Cymru a chael cynghorion am goginio gan Dudley Newbery, y cogydd sy’n ymddangos ar S4C.
Bydd ein tîm sy’n arwain teithiau i ymwelwyr hefyd yn rhoi sgyrsiau arbennig am waith y Cynulliad Cenedlaethol yn y Siambr, ar gyfer yr oriel gyhoeddus.
Hefyd os yw’r tywydd gwlyb a gwyntog yn parhau, gall pobl gynhesu â phowlaid o gawl am ddim.
Uchafbwynt y diwrnod fydd cyflwyno Neges Dydd Gwyl Dewi gan David Melding AC, Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol.
Bu’r Cynulliad Cenedlaethol yn trydaru ffaith am Gymru bob dydd yn ystod yr wythnos sy’n arwain at 1 Mawrth, gan ddefnyddio #dyddgwyldewi.
Bydd y diwrnod i’r teulu yn y Senedd yn dechrau am 10.30. Mae’r rhaglen lawn yn cynnwys:
Celf a chrefft drwy’r dydd
Teithiau o amgylch y Cynulliad Cenedlaethol drwy’r dydd
12.00 – 14.00 – Cawl am ddim
12.00 – 14.00 – Arddangosfa goginio gan Dudley Newbury, y cogydd ar S4C
12.00 – 14.00 – Y delynores, Eleri Darkins, yn perfformio yn y Senedd
15.30 – Dirprwy Lywydd y Cynulliad yn cyflwyno’r neges Gwyl Ddewi ar lawr y Siambr
16.00 – Diwedd