Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd i ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol
Bydd Margot Wallström, Is-lywydd y Comisiwn Ewropeaidd yn ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Iau 31 Ionawr.
Bydd Ms Wallström, a fydd yn ymweld â’r Cynulliad fel rhan o ymweliad tri diwrnod â Chymru, yn annerch pwyllgor o’r Cynulliad cyfan am 3.30, cyn cymryd rhan mewn trafodaeth gydag Aelodau’r Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor o’r Cynulliad cyfan ymgynnull.
Yn ystod ei hymweliad cyntaf â Chymru bydd Ms Wallström hefyd yn ymweld â Choleg Iwerydd, Ysgol Uwchradd Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd lle bydd yn cymryd rhan mewn Hawl i Holi Ewropeaidd.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu’r Is-lywydd Wallström i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Cynulliad wedi cael cysylltiad agos iawn â’r Comisiwn Ewropeaidd ers ei sefydlu felly rwy’n edrych ymlaen at glywed am y cynlluniau sydd gan y Comisiwn ar gyfer y dyfodol ac at gadeirio trafodaeth fywiog gyda’r Is-lywydd ac Aelodau’r Cynulliad.”