Jamborî i blant a theuluoedd yw’r digwyddiad cyntaf yn y Senedd i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.
Bydd sŵn, lliw a gweithgarwch yn llenwi’r Senedd ddydd Llun Gŵyl y Banc, 6 Mai, pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymgysylltu â gwaith y Cynulliad a’i bwysigrwydd i Gymru a’i chymunedau bob dydd. Mae 6 Mai yn nodi 20 mlynedd yn union ers cynnal etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Un o’r prif atyniadau adloniant fydd y grŵp o ddawnswyr ifanc disglair KLA Dance, o ardal Caerffili, a greodd dipyn o argraff ar feirniaid y gyfres The Greatest Dancer ar BBC One. Hefyd, byddwch yn barod am sgiliau syfrdanol syrcas No Fit State, dawnsio mewn disgo wedi’i bweru gan feiciau trydan, a thynnu hunlun gyda draig enfawr o Lego – sy’n bedwar metr o daldra, yn cynnwys 189,500 o frics, ac a gymerodd 1,200 o oriau i’w hadeiladu gan saith o bobl.
Bydd cyfle hefyd i blant ddefnyddio Lego Bright Bricks i greu eu campwaith eu hunain. Drwy greu modelau bach o’u cartrefi, eu hysgolion neu adeilad arall sy’n bwysig iddyn nhw, mi fyddan nhw’n gallu eu cyfuno i greu map enfawr o’u Cymru nhw. Bydd pob gweithgaredd yn gysylltiedig â rhai o’r meysydd y mae’r Cynulliad yn deddfu arnynt, gan gynnwys iechyd, yr amgylchedd, y Gymraeg, sgiliau ac addysg.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
“Mae croeso cynnes i bawb ddod i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yn ein Senedd. Rydym i gyd yn berchen ar yr adeilad hwn a bydd y lle’n edrych yn wahanol iawn ddydd Llun Gŵyl y Banc, gyda cherddoriaeth, sioeau a gweithgareddau difyr ym mhob twll a chornel.
“20 mlynedd yn union i’r dydd ers cynnal etholiad cyntaf y Cynulliad, mae’n bwysig ein bod ni’n nodi’r garreg filltir hon yng nghwmni’r genhedlaeth iau, sef y rhai a fydd yn elwa fwyaf ar y gwaith sy’n cael ei wneud yma. Os ydych wedi ymweld â’r Senedd o’r blaen, neu’n dod am y tro cyntaf, dyma gyfle ardderchog i weld yr adeilad ac ymgysylltu â’ch Cynulliad chi.”
Y diwrnod nesaf, ddydd Mawrth 7 Mai, bydd yr achlysur yn cael ei nodi’n ffurfiol yn y Siambr pan fydd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn annerch y Cynulliad yn ffurfiol gerbron Aelodau a etholwyd i’r Cynulliad ers 1999. Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Aelodau Cynulliad blaenorol a phresennol yn dod ynghyd i ddathlu, pan fyddant yn clywed cerdd am y tro cyntaf sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru.
Yn rhan o weithgareddau’r un wythnos, bydd nifer o ddigwyddiadau partner yn cael eu cynnal yn yr adeilad, gan gynnwys un i ddatgelu manylion tymor o weithgareddau Opera Cenedlaethol Cymru ar thema ‘Rhyddid’. Mae’r Cynulliad yn un o’r noddwyr.
Yn ystod misoedd yr haf, cynhelir ystod o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, gan orffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, lle bydd ffigyrau blaenllaw o’r celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd.
Nod y gweithgareddau yw dathlu a thrafod cyflawniadau’r ugain mlynedd diwethaf, ond hefyd canolbwyntio ar ddyfodol Cymru ac ymgysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau ar draws y wlad.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Jamborî yn y Senedd, 11.00 – 16.00, dydd Llun 6 Mai 2019
Bydd sŵn Samba Galez yn llenwi’r Bae mewn gorymdaith sy’n arwain i ddrws y Senedd.
Bydd sgiliau anhygoel syrcas No Fit State yn ein syfrdanu.
Bydd yr amserlen yn llawn adloniant, gan gynnwys dawnswyr disglair KLA Dance.
Bydd Mr R. Ben Igwr yn rhannu stori ‘Taith yr Iaith’ mewn sioe ryngweithiol gan y cwmni theatr addysgiadol Mewn Cymeriad; gallwch gymryd rhan mewn dosbarth meistr bîtbocsio gyda Mr Phormula; ac arbrofion a sleim gyda’r Science Boffins.
Beiciau sy’n pweru’r parti yn y Disgo Ynni Da. Dim ond drwy bedlo y mae modd tanio’r tiwns ac ar y rhestr chwarae bydd y goreuon o blith prif fandiau ac artistiaid Cymru rhwng 1999 a 2019.
Cyfle i adeiladu eich Cymru chi, drwy ddefnyddio Lego Bright Bricks. Adeiladwch fodel bach o’ch cartref, eich ysgol neu unrhyw adeilad arall i greu map enfawr o Gymru.
Hefyd, bydd wynebau’n cael eu paentio, hunluniau gyda’r ddraig Lego, gwobrau cystadleuaeth a mwy.