Jamborî yn y Senedd yn dechrau digwyddiadau 20 mlynedd o ddatganoli

Cyhoeddwyd 01/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/05/2019

Jamborî i blant a theuluoedd yw’r digwyddiad cyntaf yn y Senedd i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

Bydd sŵn, lliw a gweithgarwch yn llenwi’r Senedd ddydd Llun Gŵyl y Banc, 6 Mai, pan fydd aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymgysylltu â gwaith y Cynulliad a’i bwysigrwydd i Gymru a’i chymunedau bob dydd. Mae 6 Mai yn nodi 20 mlynedd yn union ers cynnal etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Un o’r prif atyniadau adloniant fydd y grŵp o ddawnswyr ifanc disglair KLA Dance, o ardal Caerffili, a greodd dipyn o argraff ar feirniaid y gyfres The Greatest Dancer ar BBC One. Hefyd, byddwch yn barod am sgiliau syfrdanol syrcas No Fit State, dawnsio mewn disgo wedi’i bweru gan feiciau trydan, a thynnu hunlun gyda draig enfawr o Lego – sy’n bedwar metr o daldra, yn cynnwys 189,500 o frics, ac a gymerodd 1,200 o oriau i’w hadeiladu gan saith o bobl.

Bydd cyfle hefyd i blant ddefnyddio Lego Bright Bricks i greu eu campwaith eu hunain. Drwy greu modelau bach o’u cartrefi, eu hysgolion neu adeilad arall sy’n bwysig iddyn nhw, mi fyddan nhw’n gallu eu cyfuno i greu map enfawr o’u Cymru nhw. Bydd pob gweithgaredd yn gysylltiedig â rhai o’r meysydd y mae’r Cynulliad yn deddfu arnynt, gan gynnwys iechyd, yr amgylchedd, y Gymraeg, sgiliau ac addysg.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

“Mae croeso cynnes i bawb ddod i nodi 20 mlynedd o ddatganoli yn ein Senedd. Rydym i gyd yn berchen ar yr adeilad hwn a bydd y lle’n edrych yn wahanol iawn ddydd Llun Gŵyl y Banc, gyda cherddoriaeth, sioeau a gweithgareddau difyr ym mhob twll a chornel.

“20 mlynedd yn union i’r dydd ers cynnal etholiad cyntaf y Cynulliad, mae’n bwysig ein bod ni’n nodi’r garreg filltir hon yng nghwmni’r genhedlaeth iau, sef y rhai a fydd yn elwa fwyaf ar y gwaith sy’n cael ei wneud yma. Os ydych wedi ymweld â’r Senedd o’r blaen, neu’n dod am y tro cyntaf, dyma gyfle ardderchog i weld yr adeilad ac ymgysylltu â’ch Cynulliad chi.”

Y diwrnod nesaf, ddydd Mawrth 7 Mai, bydd yr achlysur yn cael ei nodi’n ffurfiol yn y Siambr pan fydd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn annerch y Cynulliad yn ffurfiol gerbron Aelodau a etholwyd i’r Cynulliad ers 1999. Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Aelodau Cynulliad blaenorol a phresennol yn dod ynghyd i ddathlu, pan fyddant yn clywed cerdd am y tro cyntaf sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru.

Yn rhan o weithgareddau’r un wythnos, bydd nifer o ddigwyddiadau partner yn cael eu cynnal yn yr adeilad, gan gynnwys un i ddatgelu manylion tymor o weithgareddau Opera Cenedlaethol Cymru ar thema ‘Rhyddid’. Mae’r Cynulliad yn un o’r noddwyr.

Yn ystod misoedd yr haf, cynhelir ystod o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd o ddatganoli, gan orffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, lle bydd ffigyrau blaenllaw o’r celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd.

Nod y gweithgareddau yw dathlu a thrafod cyflawniadau’r ugain mlynedd diwethaf, ond hefyd  canolbwyntio ar ddyfodol Cymru ac ymgysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau ar draws y wlad.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Jamborî yn y Senedd, 11.00 – 16.00, dydd Llun 6 Mai 2019

  • Bydd sŵn Samba Galez yn llenwi’r Bae mewn gorymdaith sy’n arwain i ddrws y Senedd.

  • Bydd sgiliau anhygoel syrcas No Fit State yn ein syfrdanu.

  • Bydd yr amserlen yn llawn adloniant, gan gynnwys dawnswyr disglair KLA Dance.

  • Bydd Mr R. Ben Igwr yn rhannu stori ‘Taith yr Iaith’ mewn sioe ryngweithiol gan y cwmni theatr addysgiadol Mewn Cymeriad; gallwch gymryd rhan mewn dosbarth meistr bîtbocsio gyda Mr Phormula; ac arbrofion a sleim gyda’r Science Boffins.

  • Beiciau sy’n pweru’r parti yn y Disgo Ynni Da. Dim ond drwy bedlo y mae modd tanio’r tiwns ac ar y rhestr chwarae bydd y goreuon o blith prif fandiau ac artistiaid Cymru rhwng 1999 a 2019. 

  • Cyfle i adeiladu eich Cymru chi, drwy ddefnyddio Lego Bright Bricks. Adeiladwch fodel bach o’ch cartref, eich ysgol neu unrhyw adeilad arall i greu map enfawr o Gymru.

  • Hefyd, bydd wynebau’n cael eu paentio, hunluniau gyda’r ddraig Lego, gwobrau cystadleuaeth a mwy.