Ken Skates yn ennill y cyfle i gynnig deddf newydd ar ddarparu gofal wrth i falot Aelodau’r Cynulliad gael ei gyhoeddi

Cyhoeddwyd 19/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ken Skates yn ennill y cyfle i gynnig deddf newydd ar ddarparu gofal wrth i falot Aelodau’r Cynulliad gael ei gyhoeddi

19 Hydref 2011

Ken Skates, Aelod Cynulliad De Clwyd fydd yr Aelod Cynulliad cyntaf nad yw’n aelod o’r Llywodraeth i gynnig deddf newydd wedi i’w enw gael ei dynnu ym malot cyntaf yr aelodau yn y Cynulliad newydd.

Mae’r cynnig yn galw am Fil ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn

Caiff y cynnig ei drafod gan y Cynulliad a bydd hyn yn penderfynu a ganiateir i Ken Skates gyflwyno Bil i roi ei gynnig ar waith.

Dyma’r tro cyntaf i aelodau allu cynnig deddfau gan ddefnyddio’r pwerau deddfu llawn a ddaeth i rym o ganlyniad i’r bleidlais o blaid cael rhagor o bwerau yn refferendwm mis Mawrth.

Gellir dod o hyd i ganllaw manwl i broses Biliau Aelodau yma