Lansio bws aml-gyfrwng y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn ymwneud mwy â phobl Cymru
Bydd bws aml-gyfrwng sydd â’r bwriad o gryfhau’r cysylltiad rhwng pobl Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu ei deithwyr cyntaf heddiw (8 Mai).
Bydd cyfle i bawb sy’n ymweld â’r bws ddod i wybod mwy am y ffordd y mae’r Cynulliad yn gweithio, gadael neges fideo i Aelodau’r Cynulliad, dysgu sut i ddechrau deiseb a hyd yn oed rhoi tystiolaeth i Bwyllgorau’r Cynulliad.
Mae’r bws yn rhan o ymgyrch y Cynulliad Cenedlaethol i gael rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac i ledaenu dealltwriaeth o rôl y Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd y Llywydd: “Wrth i ni nodi dengmlwyddiant datganoli, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn ymwneud â chymaint o bobl â phosibl.’’
“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n deddfu ar gyfer Cymru, yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl.
“Er mwyn gwneud hynny, bydd angen i ni wybod beth mae pobl Cymru ei eisiau. Dyma’r rheswm dros ganolbwyntio ar y mater hwn o gynyddu cyfranogiad wrth i ni nodi dengmlwyddiant datganoli.”
“Bydd y bws yn mynd â’r broses allan i bobl Cymru mewn ffordd na welwyd o’r blaen. Bydd yn ategu ein presenoldeb ym Mae Colwyn a bydd yn ein galluogi i fynd â’r Cynulliad allan ar hyd a lled ffyrdd Cymru.”
Ymunodd cynrychiolwyr o grwpiau pobl lesbaidd a hoyw â’r Llywydd ar gyfer y cyfarfod cyntaf ar y bws.
Y cyfarfod hwn hefyd oedd yr olaf mewn cyfres o gyfarfodydd a drefnwyd ledled Cymru, lle bu’r Arglwydd Elis-Thomas yn cyfarfod â gwahanol grwpiau sydd efallai wedi profi rhwystrau rhag cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Erbyn hyn, mae’r Llywydd wedi ymweld â’r pump rhanbarth etholiadol yng Nghymru, gan siarad â phobl ifanc, grwpiau ffydd a grwpiau anabledd.
Caiff canfyddiadau’r trafodaethau hyn eu cyhoeddi i’r cyfryngau ar 12 Mai wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi dengmlwyddiant ei gyfarfod cyntaf.
Y Llywydd ar bws y Cynulliad gyda chynrychiolwyr o Ysgol y Creuddyn. Ysgol John Bright, Coleg Llandrillo ac Ysgol Ffordd y Dyffryn