Llefarydd De Cymru newydd yn ymweld â’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llefarydd De Cymru newydd yn ymweld â’r Cynulliad

Bydd yr Arglwydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn croesawu Llefarydd Cynulliad De Cymru Newydd, yr Anrhydeddus Richard Torbay, pan fydd ymweld â’r Senedd ddydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Ebrill.

Mae’r Llefarydd yn ymweld tra mae’n ymgymryd â busnes seneddol yn y DU ac Ewrop. Mae’r cysylltiad rhwng y Cynulliad a Senedd De Cymru Newydd yn un agos iawn ac yn ategu’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y ddwy lywodraeth. Yr enghraifft amlycaf o’r cysylltiad rhyngddynt yw Byrllysg y Senedd, rhodd gan Senedd De Cymru Newydd i’r Cynulliad i ddathlu agoriad brenhinol y Senedd ym mis Mawrth 2006.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Llefarydd De Cymru Newydd i’r Senedd. Caiff weld y byrllysg yn gorwedd yn urddasol yn y Siambr fel symbol i Aelodau’r Cynulliad a’n holl ymwelwyr yn yr oriel gyhoeddus o’r cynnydd cyfansoddiadol a wnaed yng Nghymru ac i’n hatgoffa o’n cysylltiadau â De Cymru Newydd a’r gymuned ehangach o seneddau a chynulliadau eraill Cymanwlad Ei Mawrhydi.”

Mae rhaglen y Llefarydd yn cynnwys cyfarfod â’r Llywydd ac Aelodau’r Cynulliad, Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan ac Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Gill Bird.