EU flag

EU flag

“Llen Haearn ddiwylliannol” - Teithio'n dod yn anymarferol i artistiaid Cymru oherwydd rhwystrau Brexit

Cyhoeddwyd 06/11/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munud

Mae teithio Ewrop wedi dod yn her enfawr i lawer o berfformwyr Cymru oherwydd costau a gwaith papur ychwanegol a roddwyd ar waith ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhai wedi cymharu effaith yr heriau â “Llen Haearn ddiwylliannol”. 

Mae rhwystrau wedi arafu symudiad rhydd, ac mae llawer o artistiaid yn dewis peidio â theithio, clywodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd, fel rhan o’i ymchwiliad i ddiwylliant a’r berthynas newydd â’r UE.

Clywodd y Pwyllgor fod uchelgeisiau perfformwyr i weithio yn Ewrop wedi lleihau yn sgil mwy o weinyddiaeth a chostau.

Mae adroddiad heddiw yn amlinellu llawer o’r problemau y mae artistiaid Cymru yn eu hwynebu.

Symud pobl

Erbyn hyn, mae rhaid i weithwyr creadigol y DU sy’n teithio yn yr UE lywio llu o drefniadau fisa a thrwydded gwaith yn 27 gwlad yr UE. Mae cyfyngiadau’n golygu mai dim ond am hyn a hyn o ddyddiau y caiff artistiaid weithio yng ngwledydd yr UE.

Esboniodd llawer o dystion sut y mae hyn wedi arwain at golli gwaith ac incwm, llai o hyfywedd o ran contractau, a theithiau dychwelyd ychwanegol i’r DU rhwng perfformiadau, i adnewyddu fisâu neu aros o fewn terfyn 90 diwrnod ardal Schengen o fewn cyfnod o 180 o ddiwrnodau.

Dywedodd y syrcas NoFit State y canlynol wrth y Pwyllgor:

“… yn ein contractau nawr... mae rhaid i ni gynnwys cymal nad ydyn nhw’n cael mynd ar wyliau i’r UE yn y mis yn union cyn contract - pe baen nhw’n gwneud hynny, byddai’n torri i mewn i’w 90 diwrnod a fydden nhw ddim yn gallu gweithio yn yr UE ar gyfer ein contract. Doeddwn i erioed wedi dychmygu yn fy mywyd y byddai gen i gontract gydag artist yn gwneud cais o’r fath, sy’n cael effaith i’r graddau hynny ar fywyd personol rhywun y tu allan i weithio i ni.”

Symud nwyddau

Mae artistiaid yn wynebu mwy o feichiau gweinyddol ac ariannol wrth symud nwyddau ar draws ffiniau. Mae gofynion tollau ar gyfer offerynnau ac offer, megis datganiadau allforio, tollau mewnforio a threthi, yn ogystal â chyfyngiadau cludo, i gyd yn heriau a godwyd gyda’r Pwyllgor.

Mae’r angen am basbort nwyddau (‘Carnets’) wedi cael effaith sylweddol ar gludo offer. Mae tystion yn disgrifio’r broses fel un “frawychus”, “hynod ddryslyd” a’i bod yn “hunllef o ran gwaith papur”. Mae rhai wedi talu arbenigwyr i ymdrin â’r broses ar eu rhan.

Mae gwiriadau ar y ffin yn cael eu cymhwyso’n anghyson, gan gynnwys ar groesfan Caergybi-Dulyn, sy’n ei gwneud yn anodd i weithwyr creadigol wybod pa reolau y mae angen iddynt eu dilyn.

Dywedodd Theatr Byd Bychan a NoFit State y canlynol wrth y Pwyllgor:

“… yr enghraifft [...] o’r stamp anghywir yn y lle anghywir ar y ffurflen, mae hynny’n digwydd i bawb drwy’r amser ac, o ganlyniad, mae offer yn cael eu cadw ar ffiniau, mae tryciau’n cael eu cadw ar ffiniau, dyw’r swyddogion ar lawr gwlad ddim yn gwybod beth yw’r rheolau ac maen nhw’n gwneud camgymeriadau”. 

Mae Theatr Byd Bychan wedi cymharu effaith yr heriau â Llen Haearn ddiwylliannol.

Ychwanegodd BECTU, undeb y diwydiannau creadigol, y bu diwydiant adloniant o’r radd flaenaf yn y DU, a oedd yn ffynnu, sydd wedi dechrau cael trafferthion. 

Disgrifiodd tystion sut y mae’r rhwystrau newydd hyn wedi arwain at golli cyfleoedd, lleihau gweithgarwch, cynyddu costau a cholli incwm.

Mae rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu

Mae adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw am gamau ar frys gan Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddi.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • nodi pa arweiniad a chymorth y mae’n eu darparu i weithwyr creadigol ar weithio ar draws ffiniau ar ôl Brexit
  • darparu ei hasesiad o effaith Brexit ar y sector diwylliant yng Nghymru
  • nodi pa gamau y mae wedi’u cymryd i liniaru effaith ariannol Brexit ar y sector yn sgil colli cyllid yr UE

Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd y canlynol:

“Mae’n amlwg bod perfformwyr ac artistiaid Cymru yn dioddef oherwydd Brexit. Rydyn ni wedi clywed tystiolaeth frawychus o sut mae mwy o gostau, gwaith papur newydd diddiwedd a chyfyngiadau teithio yn mygu diwydiant creadigol hanfodol Cymru.

“Yn gyflym, mae teithio wedi dod yn anhyfyw i ormod o berfformwyr. Mae rhwystrau Brexit wedi arafu symudiad rhydd creadigrwydd, syniadau, ac mae llawer o artistiaid yn dewis peidio byth â theithio.

“Mae Cymru yn genedl sy'n llawn angerdd, creadigrwydd a thalent, ond pa bris ydyn ni’n disgwyl i’n hartistiaid ei dalu am ddilyn eu hangerdd? Mae rhaid i’n cymdeithas ddod o hyd i ffyrdd gwell o adlewyrchu gwerth y celfyddydau i’n heconomi a’n ffordd o fyw. Mae rhaid caniatáu i’n hartistiaid adrodd stori Cymru i'r byd. 

“Fel pwyllgor, mae’r neges ddi-flewyn-ar-dafod rydyn ni wedi’i chlywed yn aros gyda ni. Mae llawer yn y fantol ac mae ein hartistiaid bob wythnos yn dewis peidio â dilyn mentrau newydd a pheidio â gwneud cysylltiadau sy'n newid bywydau oherwydd y rhwystrau y mae’n rhaid iddyn nhw eu hwynebu. 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gymryd camau a heddiw rydyn ni wedi nodi nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r heriau enfawr y mae ein diwydiant creadigol yn eu hwynebu.

“Mae rhaid mynd i’r afael â hyn ar frys cyn ei bod hi’n rhy hwyr, gan golli cenhedlaeth o dalent am byth.”