Mae Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd yn galw am weithredu ar unwaith wedi i'w adroddiad newydd ddangos methiannau eang gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol o ran darparu safleoedd digonol ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Canfu adroddiad y Pwyllgor fod llawer o safleoedd wedi'u lleoli mewn ardaloedd amhriodol, megis wrth ochr ffyrdd peryglus neu’n bell o wasanaethau ac amwynderau, heb unrhyw gyfleusterau ar gyfer plant na'r henoed.
Ac er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru i wella'r sefyllfa, nid yw hyn wedi arwain at unrhyw newidiadau ystyrlon i deuluoedd.
Cyfleusterau gwael
Mae llawer o’r safleoedd i Deithwyr yn methu ag ateb y galw ac, yn ôl Sipsiwn a Theithwyr Cymru, mae rhai unigolion wedi bod ar restr aros am blot gan yr awdurdod lleol ers dros 20 mlynedd. Yn ogystal â hyn, mae llawer o blotiau mewn cyflwr gwael, gyda chynghorau’n cymryd amser hir i drwsio problemau.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth o gyfleusterau a rennir nad oeddent wedi cael eu hadnewyddu mewn degawdau, diffyg cyfleusterau fel mannau chwarae i blant, draeniau wedi'u blocio, plâu llygod mawr, a llwydni mewn ystafelloedd ymolchi.
Angen mwy o safleoedd
Awdurdodau lleol sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch ehangu neu greu safleoedd newydd i deithwyr, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol arnynt. Ond mae'r Pwyllgor yn mynnu bod Llywodraeth Cymru hefyd yn methu â dwyn awdurdodau lleol i gyfrif, a'u bod yn fodlon rhoi’r cyfrifoldeb am y diffyg cynnydd ar gynghorau yn unig.
Yn ogystal â sicrhau bod gan gynghorau yr adnoddau angenrheidiol, mae argymhelliad allweddol yn yr adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut a phryd y bydd yn defnyddio ei phwerau er mwyn sicrhau bod cynghorau'n cyflawni eu dyletswyddau o ran dod o hyd i safleoedd priodol ar gyfer Teithwyr.
Hiliaeth
Canfu'r Pwyllgor fod diffyg ewyllys gwleidyddol yn rheswm sylweddol am y diffyg safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, a bod hiliaeth a rhagfarn eang - gan gynnwys gan gynghorwyr - yn aml yn ffactor allweddol.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, dywedodd yr academydd Martin Gallagher ei fod wedi rhoi hyfforddiant i’r gwahanol bleidiau gwleidyddol ar y byrddau cynllunio, a’u bod wedi dweud yn blaen i’w wyneb nad oeddent yn gallu cefnogi pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr mewn ymgyrchoedd gan y byddent yn colli pleidleisiau.
Ategwyd hyn gan Teithio Ymlaen, sefydliad sy’n cefnogi pobl nomadaidd, a ddywedodd wrth y Pwyllgor y byddai rhai o’r pethau sydd wedi mynd ymlaen yn lleol ac yn rhanbarthol yn annerbyniol pe baent yn ymwneud ag unrhyw grŵp arall, neu unrhyw grŵp o ddinasyddion neu grŵp ethnig lleiafrifol arall.
Mae'r Pwyllgor yn argymell yn gryf y dylid gwneud gwaith codi ymwybyddiaeth a rhoi hyfforddiant ar ddiwylliant Sipsiwn, Roma a Theithwyr i bob awdurdod lleol a chynghorydd cymuned yng Nghymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i werthuso'r rhaglen i sicrhau ei bod yn effeithiol o ran newid agweddau.
Mae hefyd yn rhybuddio bod y rhagfarn hon yn gyffredin ar draws Cymru a bod gwaith sylweddol i'w wneud o ran mynd i'r afael ag agweddau gwahaniaethol ar bob lefel o’r gymdeithas.
Dywedodd John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai; "Mae'r sefyllfa sy'n wynebu cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn destun pryder mawr ac mae'r Pwyllgor yn cytuno ar yr hyn y mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ei wneud nesaf.
"Mae llawer o safleoedd mewn ardaloedd cwbl amhriodol wrth ymyl ffyrdd prysur gyda llwybrau anwastad a draeniau wedi'u blocio. Mae rhai pobl wedi bod ar restrau aros ers sawl blwyddyn, heb ddiwedd mewn golwg.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd eu dwyn i gyfrif pan nad yw pethau'n gwella. Mae'n amlwg bod rhagfarn yn erbyn Teithwyr ar lefel leol, a thrwy gydol y gymdeithas, yn dal i fod yn eithaf cyffredin ac y dylai gwaith i fynd i'r afael â hyn fod yn flaenoriaeth.
"Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i weithredu ar ein hargymhellion ar frys neu fel arall bydd aelodau o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i gael eu trin fel dinasyddion eilradd yng Nghymru."