Llywodraeth Cymru wedi drysu rhwng proses wleidyddol a phroses ddeddfwriaethol mewn perthynas â rheoliadau’r dreth gyngor, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethole

Cyhoeddwyd 21/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Llywodraeth Cymru wedi drysu rhwng proses wleidyddol a phroses ddeddfwriaethol mewn perthynas â rheoliadau’r dreth gyngor, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

21 Mai 2013

Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, efallai y bu i Lywodraeth Cymru golli golwg ar swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol fel corff deddfwriaethol wrth iddi baratoi ei rheoliadau arfaethedig ar gynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor.

Er bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn derbyn bod datblygu cynllun newydd yn creu heriau sylweddol i swyddogion Llywodraeth Cymru, daeth hefyd i’r casgliad bod y diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwn yn siomedig.

Cafodd dwy gyfres o welliannau eu gosod ar 5 Rhagfyr 2012, sef dyddiad Cyfarfod Llawn olaf y Cynulliad yn ystod tymor yr hydref. Ar y pryd, codwyd pryderon ynghylch y diffyg cyfle a oedd ar gael i Aelodau’r Cynulliad graffu ar y rheoliadau.

Mae’r Rheolau Sefydlog, sef y rheolau sy’n penderfynu sut y mae’r Cynulliad yn gweithredu, yn nodi bod yn rhaid i gynigion gael eu cyflwyno bum diwrnod gwaith cyn y cânt eu trafod ac na ellir ystyried unrhyw gynnig i gymeradwyo offeryn statudol yn y Cyfarfod Llawn nes fod y Pwyllgor perthnasol wedi adrodd arno, neu bod o leiaf 20 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r offeryn gael ei osod.

Yn dilyn hynny, cytunwyd ar reoliadau diwygiedig, a oedd yn ymwneud â budd-daliadau treth gyngor hyd at 330,000 o gartrefi yng Nghymru, ar ôl i Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru alw’r Cynulliad yn ôl ar 19 Rhagfyr.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: "Mae gan y Pwyllgor bryderon mawr am y modd y cafodd y rheoliadau hyn eu trin.”

“Mae’n orfodol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael digon o amser i graffu ar ddeddfwriaeth gan mai dyna yw un o’i swyddogaethau craidd, a chredwn y dylai’r Gweinidog fod wedi tynnu ein sylw at ei bryderon ynghylch gwneud y rheoliadau hyn yn llawer cynt yn y broses.

“Rydym yn argymell yn gryf, pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy’n gymhleth ac yn hir ei natur, neu lle mae ei hamserlen yn dynn, ei bod yn ceisio ymgysylltu â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r pwyllgor pwnc perthnasol cyn gynted â phosibl. Gallai hyn olygu gosod offerynnau drafft anghyflawn.

“Yn yr achos hwn, daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi drysu’r broses wleidyddol a’r broses ddeddfwriaethol. Wrth wneud hynny, rydym o’r gred bod Llywodraeth Cymru wedi colli golwg ar adegau ar rôl y Cynulliad fel corff deddfwriaethol.”

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gwneud un argymhelliad yn ei adroddiad:

  • Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy’n gymhleth ac yn faith ei natur, neu pan fydd yn wynebu cyfyngiadau amser, rydyn ni’n argymell yn gryf y dylai geisio ymgysylltu â’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor pwnc perthnasol ar y cyfle cyntaf posibl. Gallai hynny olygu rhoi copïau o reoliadau ymlaen llaw ar ffurf drafft neu osod rheoliadau anghyflawn gydag esboniad clir o’r rhesymau dros wneud hynny.

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol