Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi beirniadu tystiolaeth gan Weinidog Llywodraeth y DU yn dilyn sesiwn graffu y prynhawn yma (Dydd Llun 14 Gorffennaf, 2025).
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn bur siomedig â'r dystiolaeth a roddwyd gan yr Arglwydd Timpson, y Gweinidog Gwladol dros Garchardai, Prawf a Lleihau Aildroseddu, fel rhan o waith y Pwyllgor ar y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol:
“Rydym yn siomedig iawn o glywed yr Arglwydd Timpson yn dweud bod Llywodraeth y DU yn bwriadu torri ei haddewidion ynghylch datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf yng Nghymru.
“Cafodd y polisïau hyn eu cefnogi gan sawl adroddiad cyfansoddiadol arwyddocaol a’u cymeradwyo gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Nododd adroddiad Comisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU y dylai pwerau newydd dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf fod ar gael i'r Senedd a Llywodraeth Cymru.
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dechrau'r gwaith paratoi oherwydd ei bod yn credu bod posibilrwydd realistig y gallai’r elfennau hyn gael eu datganoli yn fuan.
“Mae hyn yn groes i dystiolaeth yr Arglwydd Timpson gerbron y Pwyllgor heddiw a oedd i bob golwg yn rhoi pen ar y posibilrwydd.”
Mi fydd y Pwyllgor nawr yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ddenu sylw at y pryderon.