Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ennill y wobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’

Cyhoeddwyd 09/12/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ennill y wobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi ennill y wobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwleidyddiaeth Cymru ‘WALES YEARBOOK 2008’ eleni. Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at uchafbwyntiau’r flwyddyn wleidyddol yng Nghymru ac yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd gan Aelodau Seneddol, Aelodau’r Cynulliad, Aelodau Senedd Ewrop a chynghorwyr. Derbyniodd y Llywydd ei wobr mewn seremoni ddisglair yn y Neuadd Ddinesig yng Nghaerdydd.   

Yn y dyfarniad ar gyfer y wobr, dywedwyd:

“Yr Arglwydd Elis-Thomas sy’n derbyn y brif wobr eleni am y gwaith a wnaeth yn trawsnewid y Cynulliad yn wir ddeddfwrfa, yn pasio deddfau Cymru o dan ei bwerau newydd. Fel Llywydd cyntaf y Cynulliad-a’r unig un hyd yn hyn- nid oes ganddo ragflaenydd i’w ddilyn ac mae’n ystyried hyn yn gyfle, nid yn broblem. Nid yw Dafydd Elis-Thomas erioed wedi bod ofn addasu ei farn i adlewyrchu amgylchiadau newydd. Roedd yn weriniaethwr radicalaidd pan gafodd ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 27 oed. Mae wedi bod yn awyddus i gynnwys y Frenhines a Thywysog Cymru yn holl seremonïau’r Cynulliad wrth iddo weithio tuag at blethu datganoli i wead cyfansoddiadol y genedl.”