Llywydd's Speech at the dedication of the Armeinan Memorial

Cyhoeddwyd 05/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Anerchiad y Llywydd yn seremoni cysegru'r cofeb Armenaidd

Mae’n anrhydedd fawr iawn gen i  fod yma heddiw ar wahoddiad caredig cymdeithas Cymru-Armenia i dderbyn y groes marmor yma – y khatchkar – ar ran bobl Cymru, ac ar gyfer cysegru’r groes er cof am bobl Armenia a laddwyd yn ystod un o’r hil-laddiadau mwyaf a welodd y byd yma erioed sef hil-laddiad miliwn a hanner o bobl Armenia gan y Twrciaid ym mil naw un pump.

Mae’n bleser mawr gen i hefyd groesawu i Gymru,  Llys-gennad Armenia i’r Deyrnas Unedig, Mr. Vahe Gabrelyan, a’r Esgob Nathan Hovhannissian,  Archesgob yr Eglwys Apostolaidd Armenaidd yn y Deyrnas Unedig.   

Mae’n symbol o’r diddordeb ysol yn hanes Armenia bod yr arian ar gyfer y gofeb hardd yma wedi ei godi yn gyfangwbl gan Armeniaid Cymru a bod lle yma yn y Deml Heddwch wedi ei neilltuo ar ei gyfer.

Mae’r adeilad yma – y Deml Heddwch – yn sumbol o ddymuniad ac uchelgais Cymru i gael llais mewn materion ryngwladol byth oddi ar ei sefydlu ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.       

Mae’n falch iawn gen i ddweud bod Cymru fel cenedl wedi cydnabod hawl  Armenia i ymreolaeth ac i ddioddefaint ei phobl gael ei gydnabod gan y byd. Nid mater o sentiment yn unig yw bod Cymru wedi uniaethu ei hun gyda gwlad fechan, sydd a iaith unigryw ; cymeriad crefyddol yn deillio o’r Egwlys Gristnogol hynaf yn y byd ; a’r profiad o fyw drws nesaf i gymydog pwerus ac imperialaidd.  Mae hanes perthynas Cymru gydag un o’n gwladwriaethe hyna a’r Eglwys Gristnogol hynaf yn y byd i’w olrhain i ddiwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg a’r gyflafan yn erbyn pobl Armenia ym 1894 yn Sassoun.

Ysgrifenodd Llewelyn Williams, Aelod Seneddol Rhyddfrydol o Gymru, lyfr ar hanes Armenia ac ar gywilydd cyflafan Sassoun.Cynhaliwyd cyfarfodydd protestio, casglwyd arian er mwyn lleddfu’r dioddefaint a sefydlwyd  cymdeithas Cymru -Armenia.Pan ddigwyddodd y gyflafan ddychrynllyd

Ond nid cefnogaeth  hanesyddol yn unig sydd wed bod i bobl Armenia. Ym mis Mawrth 2000, pleidleisodd mwyafrif o aelode y Cynulliad i gefnogi cynnig gan yr Aelod, a’r Gweinidog Treftadaeth presennol, Rhodri Glyn Tomos, yn

  • Cydnabod gwirionedd hil-laddiad yr Armeniaid a ddigwyddodd dan lywodraeth Twrci yn 1915.

  • Yn galw ar Dwrci i roi terfyn are eu gwarchae economiadd ar weriniaeth Armenia

  • Ac i bwyso ar  Senedd Prydian i beidio a chefnogi cais Twrci ar gyfer aelodaeth i’r Undeb Ewropeaidd hyd nes eu bod yn cydnabod gwirionedd yr hil-laddiad yn 1915, yn ogystal a rhoi terfyn ar y gwarchae economaidd.    

Yn ogystal, mae mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru wedi arwyddo cynigion yn Nhy’r Cyffredin i’r un perwyl. Ym 2001, cyflwynodd Prif Weinidog Cymru torch o flode i gofio y sawl a ddioddefodd yn yr hil-laddiad ac yn y seremoni cofio ar gyfer hil-laddiadau eleni fe gofiwyd yr Armeniaid yn ogystal a’r Iddewon, a bobl Darfur.