Llywydd y Cynulliad i annerch Mardi Gras Caerdydd

Cyhoeddwyd 30/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad i annerch Mardi Gras Caerdydd

06 Awst 2012

Ddydd Sadwrn (1 Medi), bydd Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad, yn dathlu Mardi Gras blynyddol Cymru Caerdydd gyda chymuned hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thrawsrywiol Cymru.

Bydd Mrs Butler yn siarad ar brif lwyfan yr wyl yn ogystal ag ymweld ag amryw o sefydliadau o amgylch maes yr wyl a threulio amser ar fws allgymorth y Cynulliad.

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i gydraddoldeb ym mhopeth rydym yn ei wneud, o hawliau cydraddoldeb aelodau'r staff, gwasanaethau i gwsmeriaid a’r deddfau rydym yn eu pasio,” dywedodd y Llywydd cyn y Mardi Gras.

“Eleni cafodd y Cynulliad ei osod yn ugeinfed ar restr 100 uchaf Stonewall o’r llefydd mwyaf hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU – roedd hyn 22 safle yn uwch na’r llynedd.

“Dyna pam rwyf eisiau mynd i'r Mardi Gras, i ddangos cefnogaeth barhaus y Cynulliad i gymuned LGBT Cymru a chadarnhau ein hymrwymiad i faterion cydraddoldeb.

“Mae hefyd yn un o’r dyddiau mwyaf ysbrydoledig a lliwgar yn y brifddinas, felly rwy'n annog pawb i alw heibio ac ymuno yn y diwrnod gwych o ddathlu.”

Bydd digwyddiadau eleni yn cychwyn gyda’r orymdaith Mardi Gras gyntaf erioed yng Nghymru.

Bydd yr orymdaith yn digwydd ar fore 1 Medi – bydd yn cychwyn o’r man ymgynnull ar Heol Dumballs, yn mynd trwy Heol Eglwys Fair a Heol Fawr a chyrraedd Caeau Cooper ar gyfer y prif ddigwyddiad am 12.30pm.