Llywydd y Cynulliad i groesawu prentisiaid newydd i’r Senedd ar ddechrau cynllun peilot newydd

Cyhoeddwyd 05/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad i groesawu prentisiaid newydd i’r Senedd ar ddechrau cynllun peilot newydd

5 Medi 2012

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn croesawu pedwar prentis newydd i’r Senedd ar 6 Medi.

Mae’r pedwar person ifanc yn elwa o gynllun peilot sydd wedi’i gyflwyno gan y Cynulliad i gydnabod potensial pobl ifanc yn y gweithle.

Maent i gyd wedi cael gwahoddiad, ynghyd â’u teuluoedd a chyfeillion, i ymuno â’r Llywydd yn y Senedd i’w croesawu’n swyddogol.

“Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc mor uchel yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dylem oll wneud popeth a allwn i geisio cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau drwy gyfleoedd gwaith," dywedodd Mrs Butler.

“Dyma’r cynllun prentisiaeth cyntaf i’r Cynulliad ei gynnal ac mae’n gydnabyddiaeth o botensial pobl ifanc tra’n rhoi profiad iddynt o fyd gwaith a rhoi cyfle iddynt ennill cymhwyster mewn rhaglen hyfforddiant strwythuredig.

“Rwy’n falch o groesawu ein recriwtiaid newydd, ynghyd â’u teuluoedd, i’r Senedd ar ddechrau’r hyn fydd gobeithio yn yrfa hir a llewyrchus i bob un ohonynt.”