Lywydd Rosemary Butler AC, Sioe Frenhinol Cymru 2011
Mae’r Sioe Frenhinol yn chwarae rhan bwysig yng nghalendr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar 18 Gorffennaf, teithiodd Bws Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Lanelwedd er mwyn cynnal nifer o weithgareddau a digwyddiadau i randdeiliaid ac ymwelwyr yn ystod yr wythnos.
Ar ddiwrnod cynta’r sioe, dydd Llun 18 Gorffennaf, roedd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y bws yn cynnal sesiwn alw-heibio lle gallai aelodau’r cyhoedd ddod ar y bws a chlywed sut gallen nhw ddylanwadu ar waith y Cynulliad trwy ddeisebu. Profodd hon yn sesiwn boblogaidd iawn wnaeth bara ymhell dros ddwy awr gyda thair deiseb bosibl yn cael eu trafod.
Ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf, cynhaliodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gyfarfod Pwyllgor swyddogol yn adeilad y Ffermwyr Ifanc lle cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ei flaenoriaethau ac ateb cwestiynau gan Aelodau. Dilynwyd hyn gan gyfarfod anffurfiol lle cyflwynodd mudiadau amaethyddol eu blaenoriaethau i’r Pwyllgor newydd.
Bu’n wythnos brysur i’r Llywydd yn y sioe eleni. Ymwelodd Rosemary Butler AC a nifer o stondinau yn y sioe a chynhaliodd gyfarfodydd gyda chyrff gan gynnwys y BBC, ITV Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, Age Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru. Pwrpas y cyfarfodydd oedd trafod y blaenoriaethau i’r cyrff hyn yn ystod y blynyddoedd i ddod, a sefydlu sut gall y Cynulliad, gyda’i bwerau newydd, sicrhau bod y materion hyn yn dod i’r amlwg.
Uchafbwynt yr wythnos oedd derbyniad y Llywydd ym Mhafiliwn y Llywodraethwyr ac Is-lywyddion pan gafodd nifer o Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid allweddol gyfle i fwynhau te traddodiadol Cymreig a sgwrs gyda’r Llywydd.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn traddodi’i haraith yn Nerbyniad rhanddeiliaid y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn sgwrsio â gwesteion yn Nerbyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC, y delynores o Gaerfyrddin, Teleri Gravell, a mam Teleri. Teleri oedd yn gyfrifol am y gerddoriaeth yn Nerbyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn cael ei holi gan Roy Noble wrth ymweld â safle’r BBC yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn sgwrsio gyda’r cyflwynydd radio Jason Mohammad wrth ymweld â safle’r BBC yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC gyda chyd-gyflwynydd newyddion ITV Cymru Andrea Benfield ar set y rhaglen newyddion yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn sgwrsio gyda gwesteion yn Nerbyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn sgwrsio gyda gwesteion yn Nerbyniad y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn ymweld â stondin Age Cymru yn y Sioe Frenhinol a chlywed am ymgyrch y mudiad i gyflwyno pobl hyn i’r manteision o ddefnyddio technolegau digidol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn cwrdd â’r DJ Bethan Elfyn ar safle’r BBC yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC yn cael ei chyflwyno i Skype ar stondin Age Cymru yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC gyda Llywydd NFU Cymru Ed Bailey ar stondin yr NFU yn y Sioe Frenhinol.
Y Llywydd Rosemary Butler AC gyda Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Emyr Jones ar stondin yr Undeb yn y Sioe Frenhinol.