Mae angen deddfau newydd i achub Gwesty’r Vulcan
15 Chwefror 2010
Mae angen deddfwriaeth newydd i ddiogelu tafarn yng Nghaerdydd ac adeiladau eraill tebyg sydd o bwys cymdeithasol yn ôl adroddiad i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gan fod bygythiad y gallai’r adeilad hwn o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gael ei ailddatblygu, llofnodwyd deiseb gan bum mil o bobl yn galw am ei ddiogelu.
Gwesty’r Vulcan yw’r unig adeilad ar Stryd Adam yng Nghaerdydd sydd â chysylltiadau â hen ardal Newtown y ddinas, ond mae’r ymgyrchwyr yn pryderu y gall gael ei ddymchwel.
Cafodd cais i Cadw, sef sefydliad hanesyddol Llywodraeth Cymru i ddiogelu’r Vulcan, ei wrthod ar ôl dod i’r casgliad nad oedd yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol ar gyfer adeilad o bwys cenedlaethol.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Mae’n amlwg bod Cadw wedi dangos ewyllys da tuag at geisio diogelu’r Vulcan, gan ofyn i ymgyrchwyr am fwy o wybodaeth ac iddynt ailgyflwyno cais, hyd yn oed, ar ôl i’r cais cyntaf gael ei wrthod.
“Ond mae’n amlwg hefyd bod Cadw wedi dod i ben ei gylch gwaith a’i bod yn amhosibl gwneud mwy heb wynebu’r risg o heriau cyfreithiol ar y sail nad oedd yr adeilad yn bodloni’r meini prawf penodol.
“Clywodd y Pwyllgor am ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â diogelu treftadaeth ac y byddai’r ddeddfwriaeth honno’n cryfhau deddfau yng Nghymru a Lloegr, ond nid oedd amser wedi cael ei glustnodi ar gyfer dadl ar y ddeddfwriaeth honno yn y Senedd ar y pryd.
“Rydym yn argymell, felly, bod Llywodraeth Cymru yn ystyried canllawiau neu ddeddfwriaeth newydd i ddiogelu adeiladau sy’n bwysig am resymau cymdeithasol a diwylliannol.”
Ymchwiliodd y Pwyllgor hefyd i weld a oedd gan awdurdodau lleol y pwer i ddiogelu adeiladau sydd o bwys i’r gymuned leol. Er y gallai awdurdodau restru adeilad fel un oedd angen ei ddiogelu, canfu’r Pwyllgor mai dyhead yn unig yw hyn ac nad oes sail gyfreithiol dros rwystro’r adeilad rhag cael ei ddymchwel na’i ailddatblygu
Daeth yn amlwg hefyd bod Cyngor Sir Caerdydd eisoes wedi lobïo’r Swyddfa Gymreig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gryfhau’r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol i ddiogelu adeiladau ond ofer fu’r ymdrechion hynny.