steak

steak

Mae angen diwygiadau mawr ar hyrwyddo cig Cymru

Cyhoeddwyd 03/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/09/2025

Mae angen diwygiadau helaeth i'r corff sy'n gyfrifol am hyrwyddo cig Cymru ar frys, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn galw am gamau gweithredu pendant yn dilyn cythrwfl mewnol a heriau o ran arweinyddiaeth yn Hybu Cig Cymru (HCC).

Dywed y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru lansio adolygiad llawn o lywodraethiant a pherchnogaeth HCC, ac ystyried y posibilrwydd o ddychwelyd rheolaeth i ddiwydiant cig Cymru.

Mae'r argymhellion hyn yn rhan o adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi sy'n archwilio effeithiolrwydd HCC a’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Mae'r Pwyllgor yn tynnu sylw at bryderon ynghylch cynaliadwyedd ariannol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a'r angen am dargedau cliriach.

Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:

"Mae cig eidion a chig oen Cymru yn fyd-enwog am ei ansawdd, ei gynaliadwyedd a’i safonau lles anifeiliaid. Rhaid i Hybu Cig Cymru adlewyrchu hynny yn ei arweinyddiaeth a'i ddarpariaeth. Ar ôl cyfnod anodd o aflonyddwch mewnol a cholli hyder, mae hon yn foment dyngedfennol i ailadeiladu ymddiriedaeth, cryfhau llywodraethu, a sicrhau bod y sefydliad yn wirioneddol atebol i'r talwyr ardoll sy'n ei ariannu.

"Gallai cynrychiolaeth gryfach o’r diwydiant ar y lefelau uchaf o fewn Hybu Cig Cymru fod wedi helpu i atal y cythrwfl diweddar yn y sefydliad a meithrin gwell arweinyddiaeth. Er mwyn atal problemau tebyg yn y dyfodol, mae'n hanfodol i ni sicrhau bod llais y diwydiant yn cael ei glywed ar bob lefel.

"Mae hwn hefyd yn gyfnod heriol i ffermwyr, gyda llawer o ansicrwydd ynghylch trethi a chymorth ariannol. Dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed bod Hybu Cig Cymru yn canolbwyntio ar weithio'n galed ar ran ffermwyr, a'r diwydiant cig ehangach, i hyrwyddo ein cig coch premiwm.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gamu i fyny a gweithredu ar yr argymhellion hyn i sicrhau dyfodol ein sector cig coch."

Mae’r Pwyllgor yn argymell:

  • Diwygio llywodraethu: Adolygu strwythur HCC, gan gynnwys y posibilrwydd o ddychwelyd perchnogaeth i dalwyr ardoll a chynrychiolaeth fwy o'r diwydiant ar y bwrdd.
  • Cynaliadwyedd ariannol: Egluro cynlluniau cyllido yn y dyfodol ac archwilio ffynonellau ychwanegol, gan gynnwys cymorth y llywodraeth a darparu gwasanaethau.
  • Perfformiad ac atebolrwydd: Cyflwyno targedau mesuradwy ac adroddiadau tryloyw i sicrhau gwerth am arian.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid: Gwella gwelededd a chyfathrebu â ffermwyr, proseswyr ac arwerthwyr.
    Cydweithredu: Cynyddu cydweithio â chyrff ardoll eraill a Cyswllt Ffermio i leihau dyblygu a sicrhau’r effaith fwyaf posibl.
  • Hyrwyddo ac effaith: Cryfhau tystiolaeth o effeithiolrwydd marchnata, gan gynnwys defnyddio data cardiau teyrngarwch i fesur canlyniadau.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ei hargymhellion i adfywio HCC, er mwyn bod mewn gwell sefyllfa i hyrwyddo cig coch Cymru a chefnogi'r sector ffermio drwy'r cyfnod heriol sydd o'n blaenau.

Mwy am y stori yma 

Darllenwch yr adroddiad

Darllenwch rhagor am waith y pwyllgor