Mae angen dull gweithredu mwy cydgysylltiedig i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru – yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 27/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

​Mae angen rhagor o gydweithio rhwng y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth yng Nghymru, yr heddlu a gwasanaethau iechyd ac addysg i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yn effeithiol, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Er bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn croesawu’r gwaith a wneir gan y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth, roedd yn pryderu nad oedd y gwasanaethau perthnasol eraill yn gwybod digon am y rôl. Dywedodd un Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru nad oedd wedi clywed am y Cydgysylltydd.

Nododd y Pwyllgor mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i fod wedi penodi Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth. Ond clywodd bryderon hefyd mai cyfyngedig iawn yw galluoedd ac adnoddau’r rôl ar gyfer rhoi’r agenda atal caethwasiaeth ar waith.

Mae’n argymell felly y dylai’r adnoddau angenrheidiol fod ar gael i’r Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth, gan gynnwys rhoi cymorth i ddioddefwyr, a bod y rôl yn darparu gwerth am arian.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Mae’n anodd cael gwir ddarlun o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru, oherwydd mae llawer o oroeswyr yn rhy ofnus i ddod i’r amlwg nac i ofyn am gymorth, rhag ofn iddynt gael eu hallgludo mewn rhai achosion, neu rhag ofn i’r sawl sy'n eu dal ddial arnynt”.

“Yn hynny o beth, rydym yn falch o weld ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gael gwell dealltwriaeth o’r broblem hon yng Nghymru, ac rydym yn croesawu gwaith y Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth.

“Rydym yn pryderu, fodd bynnag, mewn rhai meysydd allweddol, gan gynnwys yr heddlu, ac yn y sector iechyd ac addysg, nad yw digon yn wybyddus am rôl y Cydgysylltydd, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sefydlu perthynas weithiol agosach rhwng y gwasanaethau hyn, er mwyn cynorthwyo i ddileu’r broblem annynol hon.”

Gwelir canfyddiadau’r Pwyllgor mewn llythyr a anfonwyd at Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

Rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i fasnachu mewn pobl